Rhedwr o Geredigion ar lwyfan y byd

Aelod o Glwb Athletau Aberystwyth yn sicrhau ei le yn oriel anfarwolion y byd rhedeg.

gan Deian Creunant
Y fedal enwog chwe seren
Edd yn barod am farathon Tokyo

Mae Edd Land, sy’n 44 oed ac yn aelod o Glwb Athletau Aberystwyth, newydd gwblhau marathon Tokyo. Roedd y ras i fod i’w chynnal yn 2020 yn wreiddiol ond fe gafodd ei gohirio oherwydd Covid-19. Hon oedd ei chweched seren a’r olaf yn ei gais i fod yn orffennwr Chwe Seren swyddogol – tipyn o gamp.

Mae hon yn cael ei chydnabod fel un o chwe phrif farathon y byd, ac mae’r rhai sy’n eu cwblhau’n cael eu gwobrwyo â medal chwe seren a lle yn oriel anfarwolion marathon y byd.

Dyfarnwyd y wobr fawreddog iddo ar ôl cymhwyso a chwblhau’r cyrsiau 26.2 milltir yn Llundain, Berlin, Chicago, Boston, Efrog Newydd a Tokyo, a gwneud hynny mewn cyfanswm amser o 17.27.26.

Wedi cychwyn ar ei daith marathon naw mlynedd yn ôl ym marathon Manceinion, ychydig a feddyliodd ar y pryd y byddai’n mynd ymlaen i gystadlu yn chwe marathon mawr y byd,

“Hyd at 2012, codi pwysau oedd fy nghamp, nid y math o gamp sydd yn cyd-fynd yn naturiol gyda rhedeg dros bellter. Ond dechreuais redeg yn 2012 a chwblhau fy hanner marathon cyntaf yng Nghaerdydd y flwyddyn honno, ac roeddwn wedi gwirioni.

“Rhedais fy marathon cyntaf ym Manceinion yn 2014, yna Llundain a Berlin cyn gosod y targed i mi fy hun o gwblhau’r chwech. Mae fy ngwraig, Lina, sydd hefyd yn rhedeg, a minnau yn defnyddio’r rasys fel ychydig o esgus i deithio’r byd. Felly, mae’r gamp wedi rhoi profiadau bywyd gwych i ni.

“Ond gyda dau o blant bach gartref erbyn hyn, mae’r teithio wedi dod yn fwy o fenter unigol, yn enwedig gyda Tokyo, ac rwy’n ffodus, yn hynny o beth, i gael cefnogaeth fy nheulu.”

Er ei fod yn aml yn bell o Aberystwyth, nid yw Aberystwyth byth yn bell o’i feddyliau,

“Rwyf wedi rhedeg pob un o’r prif rasys yn fest las Clwb Athletau Aberystwyth ac yn mynd â baner Cymru gyda mi i bob digwyddiad rhyngwladol. Mae’n destun sgwrs gwych gan fy mod yn aml iawn yn cwrdd â phobl sydd ‘wedi bod i Aber’ neu ‘sydd â theulu ger Aber’.

“Mae arna i hefyd ddyled i gyd-redwyr Aber, pobl fel James Thomas, Shelley Childs, George Eadon a Jon Burrows sydd wedi rhannu llawer o’m milltiroedd rhedeg gan ffurfio cyfeillgarwch cadarn, yn ogystal â llawer o rai eraill.”

Mae Edd hefyd wedi defnyddio llawer o’i brofiad a’i gymwysterau hyfforddi i helpu eraill i gyflawni eu nodau, o awgrymiadau syml a chyngor cyffredinol hyd at gynlluniau hyfforddi wedi’u teilwra’n uningol ar gyfer rhedeg marathon a hanner marathon.

Wedi cwblhau’r chwe marathon felly, a yw’n bryd rhoi’r esgidiau rhedeg yn ôl yn y cwpwrdd a chael seibiant haeddiannol?

“Rwy’n edrych ymlaen at gael peth amser gyda fy nheulu ac er nad oes unrhyw deithiau dros y dŵr wedi’u cynllunio, mae marathonau Manceinion a Llundain yn y dyddiadur ar gyfer mis Ebrill. Ras Llundain fydd marathon rhif 46, gan olygu mod i hanner ffordd tuag at fod yn aelod o’r Clwb 100 Marathon. Ond dwi ddim yn rhoi gormod o bwys ar hynny, bydd yn digwydd yn naturiol (gobeithio).”

Ac wrth edrych i’r dyfodol, mae ganddo un freuddwyd o hyd,

“Fy arwr a heb os fy ysbrydoliaeth yw’r rhedwr o Kenya, Eliud Kipchoge. Mae ei reolaeth feddyliol, ei ffocws a’i ymroddiad yn anhygoel, ac mae e mor ddiymhongar drwy’r amser. Byddwn wrth fy modd yn rhedeg gydag ef un diwrnod a chael sgwrs, ond rwy’n amau ​​y byddwn yn fyr o wynt. Felly byddai angen iddo wneud y rhan fwyaf o’r siarad.”