gan
Mererid
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2023/10/Penparcau1-570x353.jpeg?0)
Dydd Iau, 16eg o Dachwedd 2023, cynhelir isetholiad yn ward Penparcau yn dilyn ymddiswyddiad Steve Davies fel eu cynghorydd sir.
Yn nhrefn eu cyfenw, dyma’r ymgeiswyr a’u pleidiau: –
- Shelley Childs – Plaid Cymru
- Bryony Davies – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Ewan Lawry – Ceidwadwyr Cymreig
- Alex Mangold – Llafur Cymru
- Tomi Morgan – ymgeisydd Annibynnol.
Fe fydd cyfle i ddod i nabod mwy ar yr ymgeiswyr dros y 4 wythnos nesaf, ond ychydig iawn o amser sydd i ymgyrchu mewn ward.
Fe fydd oedolion ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad yma.