Bwyd Syriaidd yn Aberystwyth yn codi arian at apêl y daeargryn

Cinio Project Bwyd Syria’n codi miloedd o bunnau at apêl y dinistr yn Syria a Thwrci

gan Medi James

Cinio’r Syriaid o’r Morlan

Mae’r pump o ferched sy’n gyfrifol am fusnes bwyd Syriaidd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers wyth mlynedd bellach. Fe adawon nhw Syria achos y rhyfel ac fe fuon nhw’n byw yn Libanus ac yna’r Aifft cyn teithio fel ffoaduriaid i Gymru – gwlad nad oedden nhw’n gwybod am ei bodolaeth cyn hynny.

Yn ystod yr wyth mlynedd maen nhw wedi profi caredigrwydd a chynhesrwydd pobl Ceredigion. Y Cyngor Sir, y Groes Goch ac Aberaid yw’r tair asiantaeth sydd wedi rhoi cymorth iddynt wrth eu cartrefu a gofalu am eu hanghenion cychwynnol. Erbyn hyn mae eu cymdogion a natur gyfeillgar y gymdogaeth wedi bod yn gymorth mawr iddyn nhw deimlo’n saff yn ein mysg.

Ers pythefnos rydyn ni i gyd wedi cael ein dychryn gan y lluniau erchyll o ddinistr natur yn Syria a Thwrci. Mae hyn wedi taro’r Syriaid yn arbennig o galed gan mai o ardal gogledd-ddwyrain Syria maen nhw’n dod. Mae nifer wedi colli aelodau o’u teulu a gweld ardaloedd cyfarwydd yn chwilfriw. Wrth deimlo’r hiraeth a’r anobaith o allu cynnig unrhyw gymorth i’w cyd-wladwyr, dyma benderfynu ar drefnu byrbryd amser cinio fel ffordd o godi arian. Rhoi tro ar werthu raps bara wedi eu llenwi â chig neu lysiau a salad i fynd.

Cafwyd cymorth parod Morlan fel lleoliad, a daeth tyrfa fawr i brynu cinio. Profodd hwn yn llwyddiant ysgubol a’r elw o bron I £3,000 yn dangos pa mor hael ydy pobl y cylch. Mae’r arian erbyn hyn wedi ei drosglwyddo i elusen y White Helmets a Thîm Gwirfoddol Molham sy’n gweithio mewn ardal sy’n gyfarwydd i’r merched.

Dywedodd Latifa Alnajjar ar ran ei phum partner, “Heb garedigrwydd a chefnogaeth pobl Aberystwyth a’r cylch fydden ni ddim wedi cychwyn ein busnes bwyd heb sôn am drefnu digwyddiad codi arian ar gyfer yr ail drasiedi sydd wedi bwrw ein mamwlad. Mae’n diolch yn ddifesur.”