Pobl Iwcraen yn diolch am noddfa

Pobl o Iwcraen sy’n byw yn lleol yn diolch am y croeso a gawsant flwyddyn ar ôl ymosodiad Rwsia

gan Richard Owen

Heddiw, flwyddyn ar ôl i Rwsia ymosod ar eu gwlad, fe ddaeth pobl o Iwcraen sy’n byw yng nghylch Aberystwyth draw i Sgwâr Glyndŵr i ddiolch i bobl Cymru am eu croesawu yma a hwythau mewn amgylchiadau mor enbyd. Bûm yn siarad â rhai ohonynt. Roedd teulu un wraig wedi gorfod ffoi yn gyntaf o ardal yn nwyrain y wlad sydd wedi ei meddiannu gan Rwsia, gan adael eu tai a’r rhan fwyaf o’u meddiannau, ac fe symudon nhw i bentref i’r gogledd o Kyiv, prifddinas y wlad. Ond wedyn fe ymosododd y Rwsiaid o’r gogledd i gyfeiriad yr ardal ble’r oeddynt wedi ymsefydlu. Er mwyn y plant bu raid symud eilwaith, y tro hwn i Gymru. Erbyn hyn maent yn byw ym Mhenrhyn-coch. Anodd dychmygu y straen sydd arnynt. Roedd teulu arall yn byw yng nghanol y dref yn Aber. Roedd y Nain yn athrawes Saesneg yn Iwcraen, ac roedd hi’n helpu yn rhai o ysgolion Aber. Roedd y ddwy y siaredais â hwy yn gwerthfawrogi’n fawr y croeso a gawsant yng Nghymru. Maent yn bobl gryf ac yn awyddus i weithio ac i gymryd rhan ym mywyd yr ardal ym mha fodd bynnag y gallant. Pob bendith arnynt.