Plant Penrhyn-coch yn enwi stâd newydd

Mabli (Disgybl Dosbarth 4) sy’n rhoi hanes creu yr enw

gan Lynwen Evans

Cafodd plant Ysgol Penrhyn-coch gyfle i roi cynnig ar enwi stâd o dai newydd yn y pentref. Pan glywon ni am hyn roedden ni’n teimlo’n arbennig iawn ac yn bwysig! Pleser oedd cael gweithdai gwych gydag Angharad Fychan, ysgrifennydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Yr oedd hyn yn plethu yn dda gyda gwaith ein dosbarth ar y thema “Cynefin”. Edrychon ni ar fapiau a thrafod ystyr gwahanol enwau’r ardal e.e. Garth – dyma hen enw rhan uchaf y pentre (Penrhyn Uchaf gynt), a Garth Uchaf a Garth Isaf yw’r ddwy stryd gyferbyn â’r Neuadd. Ond mae’r enw yma yn dechrau diflannu oddi ar gof pobl. Ystyr Garth yw ‘cefnen’ – mae’n ddisgrifiad o’r trwyn o dir sy’n codi i fyny o Gae Mawr i gyfeiriad Garej y bysys.

Fe wnaethon ni awgrymu GWAR Y GARTH fel yr enw am y rhesymau yma: fe ddewison ni Gwar fel cychwyn yr enw er mwyn rhoi amrywiaeth i enwau ystadau yn y pentref, mae nifer fawr o stadau sy’n cychwyn gyda MAES Y ym Mhenrhyn-coch. Mae Gwar hefyd yn enw adnabyddus achos Cae Gwar Felin oedd enw’r cae lle mae Glan Seilo a Ger-y-cwm ar y map degwm. Fe wnaethom ni ddewis Garth achos mae’n gyfle gwych i gadw’r enw ‘Garth’ yn fyw. Hefyd, mae Gwar yn rhoi cyflythreniad gyda Garth.

Ar ôl clywed y newyddion da fod yr enw wedi cael ei dderbyn, ymateb Jac, un o ddisgyblion y dosbarth, oedd “Roedd gweithdy Angharad Fychan yn gyffrous, yn hwyl ac yn ddiddorol iawn! Pan wnaeth Mrs. L Evans dweud wrthon ni eu bod nhw wedi dewis yr enw GWAR Y GARTH fe wnaethon ni i gyd weiddi hwrê a neidio lan i’r awyr!”

Diolch yn fawr iawn i Angharad Fychan am y gweithdai. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr i weld yr enw ar arwydd ar ben y stâd newydd ac ar fap yn y dyfodol.