Perfformiwr cefnogol gorau o Geredigion

Gwyneth yn serennu yn ei pherfformiad yn “To Kill a Mocking Bird”

Mererid
gan Mererid

Yn wreiddiol o Bow Street ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Penweddig, llawenydd mawr yw clywed am lwyddiant diweddar Gwyneth Keyworth.

Hi yw enillydd gwobr y Perfformiwr Cefnogol Gorau mewn drama theatr a hynny yng ngwobrau What’s on Stage. Roedd hyn am ei rhan mewn  perfformiad o To Kill a Mocking Bird.

Mewn seremoni ddydd Llun, 13eg o Chwefror 2023, roedd Gwyneth ymysg talent megis Jodie Comer (Perfformiwr Gorau mewn Drama Lwyfan) a Courteney Bowman (Perfformiwr Gorau mewn Sioe Gerdd).

Mae rhestr gyflawn o’r rhai ar y rhestr fer a’r enillwyr ym mhob categori yma.

Merched oedd y prif enillwyr er gwaethaf y ffaith nad oedd categorïau gwrywaidd na benywaidd bellach.

Diolchodd Gwyneth i bawb wnaeth ei henwebu ar gyfer y wobr yma. Llongyfarchiadau mawr i ti.