Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth

Oriel o luniau

gan Iestyn Hughes

Cynhaliwyd Parêd Gŵyl Ddewi ddydd Sadwrn, 4 Mawrth. Gorymdeithiodd tyrfa niferus i lawr o ardal cloc y dref ac ymgynnull yn Llys y Brenin.

Tywyswyd y dyrfa gan Wynne Melville Jones, gyda’i deulu a’i gyfaill gorau, Mr Urdd, gydag ef.

Areithiodd yn rymus am yr iaith ac am y sefyllfa druenus yn Wcrain.

Diddanwyd y dorf gydag arddangosfa fywiog o stepio gan y grŵp ‘Dawnswyr Seithenyn’ – bach a mwy!