Paratoi at Gymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cantorion yn dod at ei gilydd ar ôl bwlch o 4 blynedd

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Nos Fercher, 5 Ebrill, daeth cantorion o gapeli Gogledd Ceredigion at ei gilydd i ddechrau paratoi ar gyfer y Gymanfa Ganu Unedig a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul, 7 Mai, a hynny am y tro cyntaf ers pedair blynedd. Alan Wynne Jones fu’n arwain y rihyrsal, a chafodd gymorth parod Falyri Jenkins ar y piano.

Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, fydd lleoliad y Gymanfa eleni. Efan Williams fydd yn arwain Cyfarfod y Plant am 10 o’r gloch ac arweinydd Cyfarfod yr Hwyr am 5.30 o’r gloch fydd Dr Rhidian Griffiths. Yn sesiwn yr hwyr bydd cyfle hefyd i fwynhau eitemau gan Barti Camddwr.

Awydd ymuno â ni? Bydd y rihyrsals nesaf ar gyfer yr oedolion am 7 o’r gloch nos Fercher, 19 Ebrill (Bethel, Stryd y Popty); 26 Ebrill (Capel y Morfa) a 3 Mai (Seion, Stryd y Popty).

Dewch i gefnogi ac i fwynhau canu tonau – hen a newydd!