Gêm gyfartal ar gae Llety Gwyn

4 gôl yr un i Padarn a Llanilar

Ar ddydd Sadwrn, 18fed o Chwefror 2023, cafwyd gem gyfartal rhwng y tîm gartref Padarn United a’r ymwelwyr CPD Llanilar.

Gyda’r rheolwr Sion Vaughan yn methu chwarae oherwydd gwaharddiad, doedd ddim yn edrych yn dda i gyfleoedd tîm pêl-droed Padarn.

Roedd nifer o’r chwaraewyr i ffwrdd oedd yn gorfodi Jason Boswell i ddychwelyd o’i ymddeoliad.

Wedi dechrau araf, dechreuodd y goliau hedfan, gyda’r sgôr terfynol yn 4 gôl yr un.

Ar ochr Llanilar, cafodd Sion Wyn Morgans ddwy gôl, un gôl i Jac Steffan Morris ac un gôl i Rhun Penri James.

Ar ochr Padarn, cafodd Cye Caines ddwy gôl, gydag un gôl yr un i Thomas James Pike a Niki John Williams (o ganlyniad i gic o’r smotyn).

Os ydych chi am gefnogi Padarn, mae’r gemau fel arfer yn dechrau am 2 o’r gloch ar gae Llety Parc.