Padarn United yn boddi ar faes Uppingham

Cae gwlyb yn ffafrio Borth yn y gêm gwpan

Mererid
gan Mererid
Padarn-Logo

Dydd Sadwrn, 23/9/2023, ac roedd tipyn o amheuaeth a fyddai’r gêm yma yn cael eu chwarae gyda Borth United yn dweud fod y cae yn rhy wlyb nos Iau. Wedi adolygu’r cae bore Sadwrn, penderfynwyd chwarae wedi’r cwbl, ond erbyn hynny, doedd y dyfarnwr ddim ar gael, felly cafodd y gêm ei chanslo eto.

Erbyn amser cinio, roedd Stuart Bird wedi dod i’r adwy, ond gyda rhai o chwaraewyr Padarn wedi penderfynu mynd i ffwrdd am y dydd, cafwyd peth trafferth dod o hyd i dîm, gan gynnwys eu rheolwr Pete Bentham.

Gêm gwpan Emrys Morgan oedd hon, a’r gêm yn cael ei chwarae ar gae cartref Borth United.

Roedd tîm cryf gan Borth, gyda’r goliau yn hedfan yn yr hanner cyntaf James Lee Fox yn sgorio wedi 16 munud, Dion Reed Davies ar ôl 24 munud a Callum Kian Lewis ar ôl 27 munud. 3-0 i Borth ar hanner amser.

Ychydig o gysur i dîm Padarn oedd pan sgoriodd Tegid Gwyn Owen ar ôl 50 munud, ond daeth Callum Kian Lewis yn ôl i sgorio yn y 57fed a’r 70ain munud o’r gêm, ac yn sgorio hatric. 5-1 i Borth ar ddiwedd y gêm, sydd yn golygu fod Padarn allan o gwpan Emrys Morgan erbyn hyn.

Cofiwch ddod i gae Llety Gwyn ddydd Sadwrn 30/9/2023 i gefnogi tîm yn erbyn Corris am 2.30 y prynhawn. Yn dilyn hyn, bydd noson gymdeithasol yn y Gogerddan Arms i godi arian i’r Clwb, gyda rasus ceffylau o 5.30 ymlaen.

Hoffai’r Clwb ddiolch i Gyngor Cymuned Llanbadarn am eu cefnogaeth ariannol, ac wrth gwrs, teulu Jones Llety Gwyn am gael defnyddio’r cae.