Noson o arddio yn Hafan y Waun

Paratoi gerddi’r cartref ar gyfer yr haf

Mererid
gan Mererid

Saith mis wedi i griw Prosiect Pum Mil orffen, daeth criw o deuluoedd a ffrindiau trigolion Hafan y Waun i helpu i gynnal y gerddi hyfryd.

Dan ofal Karen Rees Roberts, mae mwy o gydweithio gyda’r gymuned a daeth cyfle i chwynnu, plannu a harddu’r gerddi er budd y trigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Carl Worrall, sydd â mam yn byw yn Hafan y Waun

“Mae fy mam wrth ei bodd yn edrych ar y gerddi, ac yn edmygu’r lliwiau’r a’r bywyd gwyllt. Mae cadw’r gerddi i edrych yn daclus yn bwysig i bob un ohonom, er budd y trigolion.”

Gosod bwcedi dwr newydd

Jackie yn plannu

Gallwch wylio clip o waith Trystan ac Emma ym mis Medi yma: –

https://www.facebook.com/S4C/videos/garddio-gyda-trystan-prosiect-pum-mil-hafan-y-waun/847714136233388/

Diolch i bawb am ddod.