Nifer y rhedwyr yn dyblu ar gyfer ras 1af y gyfres rhedeg llwybrau

Cyfres yr haf yn dechrau gyda Ras Hwyrnos Nantyrarian

gan Rhedeg Aber
Runners-make-their-way-start

Y rhedwyr yn cerdded i’r llinell gychwyn (Llun: Shelley Childs)

Ben-Porter-overall-winner

Ben Porter oedd yr enillydd (Llun: Shelley Childs)

Ffion-Price-overall-first-female

Ffion Price oedd y ferch gyntaf (Llun: Shelley Childs)

James-Cowan

Y bachgen lleol, James Cowan, oedd yn drydydd (Llun: Shelley Childs)

Dee-Jolly-1st-F35

Dee Jolly o Glwb Sarn Helen (Llun: Shelley Childs)

Roedd yna ddechrau ardderchog yr wythnos diwethaf i’r gyntaf o’r gyfres o rasys rhedeg llwybrau a gynhelir gan Sialens y Barcud Coch.

Bwlch Nantyrarian oedd y lleoliad godidog ar gyfer y ras hwyrnos ganol wythnos a gynhaliwyd nos Fercher, 19 Ebrill, ac roedd yn gefnlen perffaith ar gyfer agor y gyfres a’r rasio gwych a welwyd.

Yn wir, roedd nifer y rhedwyr yn record ar gyfer y digwyddiad, gydag ymhell dros ddwbl y nifer a rasiodd yn y ras gyfatebol y llynedd – cyfanswm o 140 o redwyr yn troedio’r llinell gychwyn. Heb amheuaeth, roedd hynny’n rhannol oherwydd bod pobl yn awyddus i gefnogi sylfaenydd y ras a’r gyfres, y rhedwr lleol enwog, Dic Evans, a ddioddefodd strôc dros y Nadolig ac sydd ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal yn ward strôc ysbyty Bronglais.

Roedd safon y rasio’n arbennig o uchel hefyd, cymaint felly nes i record cwrs y dynion a’r merched gael eu chwalu ar noson sych ond gwyntog yn uchelfannau Elenydd.

Ben Porter oedd enillydd y ras, mewn amser o 31:48, gan dorri’r record flaenorol o funud cyfan. Yn dynn ar ei sodlau yr oedd Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth mewn amser o 31:57, gyda Harrier Prifysgol Aberystwyth, James Cowan, yn drydydd mewn 33:11.

Ffion Price o glwb rhedeg Llanfair-ym-Muallt oedd y ferch gyntaf i orffen, mewn amser ardderchog o 34:52, gan chwalu record y cwrs a osodwyd gan ei chyd-aelod o’r clwb, Donna Morris, y llynedd. Emma Price o Harriers Prifysgol Aberystwyth oedd yn ail, mewn 37:13, gyda Dee Jolly o Sarn Helen yn drydydd, mewn 38:23.

Owain Schiavone a Dee Jolly hefyd oedd enillwyr y categorïau dynion a merched dros 35 oed, gyda Rhodri ap Dyfrig o Glwb Rhedeg Meirionnydd yn ennill y categori i ddynion dros 45 oed, a Joanne Rees o Glwb Llanfair-ym-Muallt yn fenyw gyntaf dros 45 oed.

Enillwyr y categorïau eraill oedd Mel Hopkins (dynion 55+) a Cameron Pope (dynion 65+), y ddau o Glwb Athletau Aberystwyth, Gunvor Troelsen o Lanfair-ym-Muallt yn fenyw gyntaf drod 55 oed a Chris Thomas, hefyd o Glwb Llanfair-ym-Muallt, yn fenyw gyntaf dros 65.

Dechreuad perffaith

Roedd y gŵr yn y trydydd safle, James Cowan, hefyd yn rhan o’r tîm oedd yn trefnu’r ras ac wrth ei fodd gyda llwyddiant y digwyddiad.

“Roedd yn ddechreuad perffaith ar gyfer ein cyfres haf o rasys trêl eleni a byddai Dic wedi bod wrth ei fodd o weld cymaint o redwyr, a safon y rasio,” meddai James.

“Rhaid cyfaddef ei fod yn brofiad i ni fel criw newydd o drefnwyr ac ro’n i allan yn marcio’r cwrs trwy’r prynhawn. Y pethau bach yma roedd Dic yn eu gwneud nad oeddech chi’n sylwi arnyn nhw nac yn gwerthfawrogi’n llawn.

“Roedden ni’n falch iawn i weld cymaint o glybiau lleol yn cefnogi’r ras ac roedd yn wych gweld cymaint o redwyr Sarn Helen, Clwb Athletau Aberystwyth, Clwb Llanfair-ym-Muallt, criw Triathlon Cerist a’n clwb ni, Harriers Prifysgol Aberystwyth, yn rhedeg, gan ddangos cefnogaeth ac undod gyda Dic. Rydym yn gobeithio gweld cymaint o redwyr ein ras nesaf yn yr Hafod.”

Bydd ras nesaf y gyfres yn cael ei chynnal yn ystad yr Hafod, ger Pontrhydygroes, nos Fercher, 3 Mai, ac mae trydydd dyddiad newydd ei gyhoeddi, ar 21 Mehefin, gyda’r ras i’w chynnal yng nghoedwig Long Wood, Llanbed, a chlwb Sarn Helen yn trefnu.

Cyn hynny, bydd sylw’r trefnwyr a’r byd rhedeg llwybrau Cymreig yn troi at brif rasys Sialens y Barcud Coch y penwythnos yma gyda rasys ieuenctid, ynghyd â 10k a Hanner Marathon yn digwydd ym Mhontarfynach.

Bydd incwm y rasys yn mynd tuag at elusen Sialens y Barcud Coch eleni, sef ward strôc Ysbyty Bronglais. Manylion llawn ar http://redkite-barcudcoch.org.uk/