Nadolig ar y môr

Treulio’r ŵyl yng nghanol môr yr Iwerydd mewn cwch rhwyfo!

Enfys Medi
gan Enfys Medi
stuart

Suart, ail o’r chwith a thîm yr Aussie Old Salts.

stuart3

Lleoliad presennol y cwch rhwyfo!

stuart2

Stuart yn arddangos ôl rhwyfor’r wythnosau cyntaf ar ei ddwylo.

stuart1

Golygfa Stuart ar noswyl Nadolig

Mae wedi bod yn Nadolig tra gwahanol i Stuart Moore eleni. Treuliodd yr ŵyl dros 1000 môr-filltir o dir yng nghanol môr yr Iwerydd mewn cwch rhwyfo!

Swyddog gyda’r llynges Awstralaidd yw Stuart ond er ei fod wedi byw yn Awstralia ers blynyddoedd bellach mae’r cyswllt ag adre a’r teulu mor gryf ag erioed. Mae’n braf iawn bob amser ei groesawu nôl i Landdeiniol ac yntau hefyd yn falch o ddychwelyd.

Mae Stuart yn rhan o dîm Aussie Old Salts sy’n taclo ras rhwyfo galeda’r byd, 3000 môr-filltir o La Gomera ar yr ynysoedd Dedwydd i Antigwa yn y Caribi. Dechreuodd y criw ar yr 14 o Ragfyr ac mae’n anodd iawn gwybod pryd fyddant yn cyrraedd y lan ar yr ochr draw. Yr amcangyfrif, ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf yw’r 30 Ionawr.

Roedd rhaid paratoi yn drwyadl ar gyfer y sialens,

 ‘Ma’r hyfforddi wedi bod yn drwm.  Dwi wedi gorfod neud rhywbeth bob dydd fel hyd at ddwy awr ar y peiriant rhwyfo er mwyn dod yn gyfarwydd â’r ‘boredom’, lot o godi pwysau er mwyn cryfhau’r coesau a ioga i gryfhau’r craidd a hyblygrwydd.

Dyma’r hyn ddywedodd Stuart cyn camu i’r cwch rhwyfo

Fi’n edych mlan i fod mas ar y môr, heddwch o fod ar lein am 6 wythnos, yng nghanol natur fel morfilod, dolffiniaid a gweld y sêr i gyd. Fi’n really dreado’r stormydd a thonnau 10m o uchder a’r cwch yn rholio lawr y tonnau. Mae’n debyg fod hynny’n ddigon cyffredin. Hefyd ofni gorfod mynd o dan y cwch i lanhau’r gwaelod bob wythnos!

Wynebodd y timau ac amodau anodd iawn yn ystod y 7 diwrnod cyntaf ond mae pethau wedi gwella’n raddol er bod her y sialens yn parhau’n un anferthol.

Mae technoleg yn golygu fod Stuart mewn cyswllt gyda mam a dad yn Llanddeiniol er ei fod ymhell iawn o’r tir yng nghanol mor yr Iwerydd. Dathlodd ei ben-blwydd ar y cwch ar yr 22 Rhagfyr hefyd a’r neges adref yn sôn am dywydd gwyllt yn ei gwthio yn y cyfeiriad cywir a syrffio 14 milltir yr awr ar don enfawr!

‘Cyffrous ond brawychus’ oedd ei eiriau ef i ddisgrifio’r profiad.

Mae ffordd bell i fynd ond maent yn gwneud cynnydd cadarn ac yn y 15fed safle allan o 38 cwch ar hyn o bryd.

Mae ei deulu a’i ffrindiau yn cadw llygad barcud ar safle’r cwch bach oren ar yr ap sy’n caniatáu i bawb ddilyn y daith. Diddorol iawn yw diweddariadau sy’n ymddangos ar dudalen facebook y ras https://www.facebook.com/worldstoughestrow

Ni yma yn Llanddeiniol yn falch iawn ohonot ti Stuart ac yn dymuno yn dda i ti ar bob ‘rhwyf’ o’r daith. Edrychwn ymlaen at ddal lan a chael clywed yr hanes ar ôl ti roi dy draed nôl ar dir sych.