‘Nadolig y Beirdd’ yng Nghapel y Garn

Cyflwyniad arbennig gan yr Athro Peredur Lynch i Gymdeithas y Garn

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Braf oedd croesawu’r Athro Peredur Lynch o Brifysgol Bangor i roi sgwrs yng Nghymdeithas Lenyddol y Garn, nos Wener, 15 Rhagfyr.

Testun ei gyflwyniad oedd ‘Nadolig y Beirdd’ ac fe ddewisodd yr Athro Lynch sôn am dair cerdd wrthgyferbyniol gan feirdd â chysylltiad a’i fro enedigol ym Mro Edeyrnion oedd yn rhychwantu’r canrifoedd a sawl thema’n ymwneud â’r Nadolig.

Mewn sgwrs hwyliog a chartrefol, cyfeiriodd yn gyntaf at gerdd Madog ap Gwallter, ‘Mab a’n rhodded’, sy’n cael ei hystyried fel y garol hynaf yn yr iaith Gymraeg, cyn mynd ymlaen i gyflwyno cerdd Eos Iâl, ‘Ar gyfer heddiw’r bore’, sydd bellach yn un o’n carolau mwyaf poblogaidd. I gloi’r noson, dyfynnodd gerdd Nadoligaidd rymus y Parch. R. Meirion Roberts o gyfnod yr Ail Ryfel Byd – cerdd sy’n sôn am ei waith fel caplan yn cefnogi’r hogiau cyffredin oedd yn ymladd ar faes y gad, er enghraifft ym mrwydr El Alamein.

Diolchwyd i’r Athro Lynch am gyflwyniad arbennig gan yr Athro Gruffydd Aled Williams, a mwynhawyd sgwrs, paned a mins pei yn y festri i ddilyn.