Mannau Tyfu Plascrug

Datblygiad newydd sbon gan Gyngor Tref Aberystwyth

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
FB_IMG_1692309270706Cynghorydd Alun Williams
FB_IMG_1692309273896Cynghorydd Alun Williams

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru (gyda chymorth Cyngor Sir Ceredigion) ar gyfer creu ‘MANNAU TYFU PLASCRUG’, drws nesaf i’r Clwb Bowlio.

Mae Cam 1 y prosiect, sy’n nodi seilwaith y safle, wedi dechrau’n ddiweddar. Mae hyn yn cynnwys adrannau ar gyfer compost, naddion pren a thail. Mae’r twnnel polythen cymunedol wedi’i osod ac mae’r borderi uwch wedi’u cychwyn.

Mae’r cyllid wedi’i rannu’n 4 rhan, dwy eleni a dwy ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r Cyngor yn gobeithio cael rhan o’r safle yn weithredol erbyn y gwanwyn yn barod ar gyfer y tymor tyfu.