gan
Maldwyn Pryse
Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru (gyda chymorth Cyngor Sir Ceredigion) ar gyfer creu ‘MANNAU TYFU PLASCRUG’, drws nesaf i’r Clwb Bowlio.
Mae Cam 1 y prosiect, sy’n nodi seilwaith y safle, wedi dechrau’n ddiweddar. Mae hyn yn cynnwys adrannau ar gyfer compost, naddion pren a thail. Mae’r twnnel polythen cymunedol wedi’i osod ac mae’r borderi uwch wedi’u cychwyn.
Mae’r cyllid wedi’i rannu’n 4 rhan, dwy eleni a dwy ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r Cyngor yn gobeithio cael rhan o’r safle yn weithredol erbyn y gwanwyn yn barod ar gyfer y tymor tyfu.