Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
I’r rhai ohonoch sydd yn cael trafferth cerdded o Sgwâr Glyndŵr hyd at y cloc, mae mainc newydd i chi gael ysbaid tu fas i Waterstones a Savers/Specsavers.
Cyngor Tref Aberystwyth sydd wedi ariannu’r fainc, sydd wedi ei gosod gan Gyngor Sir Ceredigion, a hynny mewn ymdrech i helpu’r Stryd Fawr a dod a mwy o gwsmeriaid i’r dref.
Ond beth yw eich barn chi?
Da iawn gweld datblygiad newydd i ganol Aberystwyth