gan
Mererid
I’r rhai ohonoch sydd yn cael trafferth cerdded o Sgwâr Glyndŵr hyd at y cloc, mae mainc newydd i chi gael ysbaid tu fas i Waterstones a Savers/Specsavers.
Cyngor Tref Aberystwyth sydd wedi ariannu’r fainc, sydd wedi ei gosod gan Gyngor Sir Ceredigion, a hynny mewn ymdrech i helpu’r Stryd Fawr a dod a mwy o gwsmeriaid i’r dref.
Ond beth yw eich barn chi?
- Ydi’r fainc yn wynebu’r ffordd anghywir?
- Pa ffordd y byddech chi yn hoffi wynebu?
- A fyddwch chi yn eistedd i aros i’ch cydymaith orffen siopa?
Da iawn gweld datblygiad newydd i ganol Aberystwyth