Llyfr tad a merch o Geredigion ar restr fer (gyda talent eraill o Ogledd Ceredigion)

Awduron a darlunwyr o Ogledd Ceredigion ar restr fer Tir Na n-Og

Mererid
gan Mererid
Wyn-a-Efa

Wyn-a-Efa

Yn wreiddiol o fferm Tynrhelyg, Llanfarian, Wyn Mason yw awdur Gwlad yr Asyn, nofel graffeg a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, gyda darluniau gan Efa Blosse Mason, ei ferch. Bellach yn byw yn Nghaerdydd, cynhaliodd y ddau noson yn ddiweddar yn Llyfrgell Aberystwyth yn esbonio beth oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r llyfr.

Pleser hefyd yw gweld fod gwaith y darlunydd lleol, Valériane Leblond hefyd ar y restr gyda Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan.

Un arall yn wreiddiol o Geredigion ac a anwyd yn Aberystwyth yw Alun Davies, awdur Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, ond bellach hefyd yn byw yn Nghaerdydd.

Ar nos Iau, 23ain o Fawrth 2023, cyhoeddwyd Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023, oedd yn cynnwys Gwlad yr Asyn.

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni oedd Morgan Dafydd, Sara Yassine, Francesca Sciarrillo, Sioned Dafydd a Siôn Edwards.

Dyma’r rhestr fer am lyfrau ar gyfer plant oedran cynradd

Dros y Môr a’r Mynyddoedd, awduron amrywiol (Gwasg Carreg Gwalch)

Casgliad prydferth o straeon Celtaidd rhyngwladol. Er bod pob stori’n unigryw ac yn wahanol, mae un peth yn gyffredin rhyngddynt – y merched cryf a phenderfynol sy’n arwain pob stori.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Huw Aaron a Luned Aaron (Atebol)

Llyfr modern, doniol a lliwgar sy’n llawn direidi ond yn trafod neges bwysig ar yr un pryd – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan, Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)

Cyfuniad o air a llun yn dod at ei gilydd i ddweud hanes un bachgen swil o dde Cymru, a lwyddodd i helpu miliynau o bobl drwy ei waith yn sefydlu un o’n trysorau cenedlaethol.

Rhestr Fer Uwchradd

Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)

Nofel graffeg anghyffredin a ffraeth iawn sy’n seiliedig ar ddrama lwyfan. Stori am asyn sydd wedi hen arfer bod o gwmpas pobol, ond erbyn y diwedd daw i gwestiynu ei hunaniaeth ei hun!

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa)

Antur ffantasïol llawn dirgelwch, sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol. Dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel deimladwy ac amserol iawn sy’n taflu goleuni ar rôl Cymru yn y diwydiant caethwasiaeth.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Cymraeg, bod y safon yn uchel iawn eleni.

Er bod yr argyfwng costau byw yn brathu, o edrych ar yr arlwy eleni gallwn weld fod y diwydiant llyfrau yn dal ei dir a bod creadigrwydd yn ffynnu.

Eleni, gwelsom gymysgedd o awduron newydd ynghyd â rhai cyfarwydd ym maes llyfrau i blant.

Yn fy nhrydedd flwyddyn ar y panel, gallaf ddweud â sicrwydd bod y safon yn uchel iawn eleni – yn wir, mae’n parhau i godi bob blwyddyn.

Wrth longyfarch y sawl sydd ar y rhestrau byrion, dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau, ei bod hi’n

“galonogol iawn gweld llyfrau gwreiddiol Cymraeg mewn cymaint o wahanol fformatau i apelio at ddarllenwyr ifanc”.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol eleni.”