Lladrad copr o Ysgol Llwyn Yr Eos

Heddlu yn apelio am wybodaeth

Mererid
gan Mererid

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad to copr o Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth.

Cafodd y to ei ddwyn tua 11pm ddydd Sadwrn 30 Medi 2023.

Yn lwcus, nid oedd difrod mewnol i’r ystafelloedd dosbarth, ac mae to dros dro wedi ei ddarparu nes y bydd modd ei drwsio.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad i’w adrodd i Heddlu  Dyfed Powys, naill ai
💬 | Anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol
🖥 | https://orlo.uk/brGGc
📧 | 101@dyfed-powys.police.uk
📞 | 101
Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys ar 07811 311 908.

Cyfeirnod: DP-20231001-165

Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Taclau yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu i wefan Crimestoppers-uk.org.