Dau gwrt cosbi Nic Parry

Atgofion a straeon difyr y Barnwr a’r sylwebydd ffraeth

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Cafwyd noson i’w chofio nos Wener, 17 Chwefror, yng Nghymdeithas Lenyddol y Garn, Bow Street, yng nghwmni’r Barnwr a’r sylwebydd pêl-droed Nic Parry.

Camodd i’r bwlch ar fyr rybudd i rannu ei atgofion am ei gyfnod yn y brifysgol yn Aberystwyth – blynyddoedd hapusaf ei fywyd, meddai, lle’r heuwyd yr hadau a arweiniodd at ei yrfa amrywiol ym myd y gyfraith a’r cyfryngau.

Datblygodd o fod yn ‘gyfreithiwr cefn gwlad’ yn delio â mân achosion i fod yn farnwr yn Llys y Goron. Clywyd am sawl tro trwstan a doniol ar y ffordd, yn ogystal â sylwebaeth ddwys ar effeithiau andwyol tlodi, diweithdra ac afiechyd meddwl ar deuluoedd y dyddiau hyn.

Ochr yn ochr â’i yrfa fel Barnwr, arweiniodd ei ffraethineb a’i ddawn dweud ddiamheuol at waith sylwebu ar amrywiol gampau, o’r gyfres Reslo ar S4C i gêmau pêl-droed rhyngwladol – a’i ‘one-liners’ bachog sy’n taro cefn y rhwyd ar bob achlysur!

Noson arbennig iawn – a’r gynulleidfa niferus wrth ei bodd!