Gwobrau Menter Aberystwyth yn ôl am flwyddyn arall!

Er mawr lawenydd i’r trefnwyr, mae’r gwobrau poblogaidd yn ôl unwaith eto eleni.

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson
Ein Prif Enillwyr 2022Kerry Ferguson

SY23 gyda’r perchnogion Rhian a Mark Phillips, a’r prif noddwyr Rhodri Morgan yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth, a’r Maer Chaudhri, yn cynrychioli Cyngor Tref Aberystwyth.

Eleni, mae 13 o wobrau i gyd – gan gynnwys yr hen ffefrynnau, rhai gwobrau newydd fel ‘Gwobr Cefnogi Pobl’ ac mae ein pleidlais gyhoeddus, ‘Digwyddiad y Flwyddyn 2022’ yn dychwelyd.

Bydd ceisiadau ac enwebiadau’n agor ar 1 Mawrth ar wefan Menter Aberystwyth (menter-aberystwyth.org.uk), a bydd yn cau ar 30 Ebrill 2023. Bydd y beirniadu yn digwydd yn ystod mis Mai. Cynhelir y Seremoni Wobrwyo eleni yng nghanolfan Medrus, ar 22 Mehefin 2023 – lle gwahoddir pob busnes, sefydliad ac unigolyn sydd ar y rhestr fer ar gyfer noson o ddathlu.

Peidiwch â bod ofn rhoi eich hun ymlaen am wobr, ac os ydych chi’n gwybod am fusnes, sefydliad neu unigolyn sy’n haeddu ennill – beth am eu henwebu? Profodd ein gwobrau yn 2022 i ni gymaint mae’r gydnabyddiaeth yn golygu i’r rhai ar y rhestr fer ar gyfer y rowndiau terfynol, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym am ei annog.

Mae ardal Menter Aberystwyth yn ymestyn o Lanrhystud hyd at Eglwysfach, gall unrhyw un o fewn yr ardal honno wneud cais neu gael ei enwebu.

Y categorïau sydd gennym eleni yw Y Wobr Werdd, Y Wobr Werthu, Gwobr Bwyd a Diod, Gwobr Annog Cymuned, Gwobr Dathlu Busnes Newydd, Gwobr Celf a Llenyddiaeth, Gwobr Iaith Gymraeg, Arwr Cymunedol, Gwobr Twristiaeth, Buddsoddi yn yr Ifanc, Gwobr Cefnogi Pobl, Pleidlais Gyhoeddus: Digwyddiad y Flwyddyn 2022 ac wrth gwrs, ein Prif Enillydd a ddewisir gan ein panel beirniaid.

Dywedodd Laura Klemencic, sy’n brif drefnydd y digwyddiad eleni…

“Mae’n anodd credu ei bod hi eisoes yn bryd trefnu’r gwobrau eto eleni. Ar ôl llwyddiant mawr yn 2022 yn dilyn digwyddiad cyfyngedig yn 2021, mae’n braf bod yn ôl gyda momentwm, gan ddathlu’r gorau o’n hardal leol ar draws amrywiaeth o gategorïau. Os oes gennych chi rywun mewn golwg i’w henwebu, peidiwch ag oedi – mynnwch yr enwebiadau hynny i mewn!”

Hoffem ddiolch i Gyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth am eu cefnogaeth fel ein cyllidwyr craidd – hebddyn nhw, ni fyddai digwyddiadau fel hyn sy’n golygu cymaint i’r gymuned yn gallu bwrw ymlaen.