Gwobrau Eisteddfod Powys i Ogledd Ceredigion

Dyfarnu’r goron i un o drigolion Bow Street

Mererid
gan Mererid
Coron-Eisteddfod-Powys

Coron Eisteddfod Powys

Llongyfarchiadau enfawr i Gareth William Jones, Bow Street ar ennill coron Eisteddfod Powys. Cynhaliwyd Eisteddfod Powys dros y penwythnos 27-28ain o Hydref 2023 yn Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala.

Gyda mab Gareth, Llŷr wedi setlo yn Llanuwchllyn ger y Bala, roedd cysylltiad lleol rhwng Gareth a’r ardal. Mae Gareth yn briod gyda Gaenor ac yn dad i Llŷr a Rhian, ac yn dad-cu/ taid i 6 o blant.

Dyfarnwyd y goron gan y beirniad Heiddwen Tomos am ryddiaith agored ar y teitl “Man Gwyn”. Roedd Gareth wedi defnyddio’r teitl i gyfeirio at deithwyr y genhedlaeth Windrush. Fe fydd rhan o’r darn buddugol ar gael yn y Cyfansoddiadau.

Llongyfarchiadau hefyd i’r Parch Judith Morris, Penrhyn-coch, yn ennill am delyneg ar y testun “Neges”.

Roedd Steffan Nicholas o Aberystwyth hefyd yn llwyddiannus ar ddarn o ryddiaith i flwyddyn 10 i 13 ar y teitl “Fy Nghynefin”.

Roedd Caiomhe Melangell o Bontgoch yn ail ar y llefaru dan 19 mlwydd oed, a hefyd yn ail ar y fonolog dan 19 mlwydd oed.

Diolch i Eisteddfod Powys am drefnu eisteddfod lwyddiannus, ac rydym yn falch o weld llenorion Gogledd Ceredigion yn cael cymaint o lwyddiant.