Gwobr cyfraniad arbennig i Ellen

Plaid Cymru yn rhoi gwobr yn eu Cynhadledd flynyddol

Mererid
gan Mererid

Fe fydd rhan fwyaf ohonoch yn adnabod Ellen ap Gwynn o Dalybont.

Ar ddydd Sadwrn, y 7fed o Hydref 2023 yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth, Ben Lake oedd yn cyflwyno’r wobr i Ellen.

Wedi ei geni yn yr Alban, Porthmadog oedd plentyndod Ellen, ac yn dod yn aelod yn Ysgol Eifionnydd.

Bu’n cynnal gweithgaredd y Blaid a’r gymuned yn eu cyfnod yn Llangwyryfon, cyn symud i Dalybont yng Ngogledd Ceredigion.

Fe fyddwch yn cofio cyfnod Ellen fel Cynghorydd Sir Ceulanmaesmawr, ond mae yn parhau fel Cynghorydd Cymuned Talybont ac yn aelod gweithgar ym mhob etholiad.

Mae Iolo, ei gwr, wedi cael y wobr yn y gorffennol, felly mae’r ddau yn llwyr deilwng o gael eu hanrhydeddu am waith oes.