Ffarwelio gyda Geraint

Cynghorydd yn diolch i’r Cyngor am eu gwaith caled

Mererid
gan Mererid
Geraint Hughes

Dydd Gwener, 26ain o Fai yw diwrnod olaf y Cynghorydd Geraint Hughes dros ward Llanfarian.

Nododd Geraint mewn neges ar Facebook Cyngor Cymuned Llanfarian: –

Gyda balchder, yr wyf yn eich hysbysu fy mod wedi cael fy mhenodi i swydd newydd fel Rheolwr Tir ar gyfer Countrywide Ltd sy’n cwmpasu De Cymru gyfan. Dyma rôl yr wyf wedi dyheu amdani erioed.

Yn anffodus, mae gofynion y rôl yn golygu ymrwymiad llawn amser ac o ganlyniad– y bore yma, rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad i Gyngor Sir Ceredigion, i roi’r gorau i fod yn Aelod Lleol dros Ward Llanfarian o ddydd Gwener y 26ain o Fai 2023.

Er na fyddaf yn Gynghorydd Sir mwyach – bydd fy ymddiswyddiad yn sbarduno isetholiad yn fuan, rwy’n fwy na pharod i gynnig arweiniad a chyngor os bydd unrhyw faterion yn codi – cyn penodi rhywun yn fy lle.

Mae amseriad cyfle mor wych yn anffodus, ond yn un na allaf ei wrthod.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bob un ohonoch am eich cefnogaeth a hefyd hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion am yr holl waith da y maent yn ei wneud yn ddiflino ar draws yr holl adrannau.

Yr ydym, yn aml, yn rhy barod i daro bai ar yr Awdurdod, yn hytrach na chydnabod y gwaith caled y maent yn ei wneud i ofalu am yr ardal brydferth hon yr ydym i gyd yn ddigon ffodus i’w galw’n gartref i ni.

Mae Geraint wedi bod yn gynghorydd ers y 6ed o Fai 2022 pan enillodd etholiad yn erbyn Simon Warburton oedd yn cynrychioli Plaid Cymru.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn galw is-etholiad yn fuan.

Diolch am dy waith Geraint a phob lwc gyda’r swydd newydd.