Ar y 1af o Chwefror 2023, roedd gorymdaith o streicwyr yn teithio o gampws Penglais drwy’r dref i bromenâd Aberystwyth.
Ymysg y streicwyr roedd aelodau UCU (University and College Union) oedd yn streicio tu allan i gampws Penglais, aelodau PCS (Public and Commercial Services Union) – rhai o aelodau’r Llyfrgell Genedlaethol a staff ysgolion lleol sydd yn aelodau o NEU (National Education Union).
Roedd mudiadau eraill fel CND yno i’w cefnogi – ac yn bennaf i gefnogi hawl y gweithwyr i streicio.
Dywed yr undeb y bydd 70,000 o aelodau UCU yn cerdded allan ar ddiwrnodau streic ac, os bydd yn mynd yn ei flaen, dyma fydd y gyfres fwyaf o streiciau erioed i gyrraedd campysau prifysgolion y DU.
Mae aelodau’r NEU yn ymgyrchu am godiad cyflog uwch na chwyddiant, wedi’i ariannu’n llawn, ar ôl i athrawon yng Nghymru bleidleisio’n llethol dros streicio.
Mae’r undeb yn datgan pedwar diwrnod o streicio ym mis Chwefror a mis Mawrth yng Nghymru – gan effeithio ar tua 1,500 o weithleoedd yng Nghymru.
Bydd yr UCU hefyd yn ail gynnal pleidlais ar ei 70,000 o aelodau yn y 150 o brifysgolion sy’n destun anghydfod – sy’n cynnwys Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan a Bangor – i ymestyn mandad yr undeb a chaniatáu i staff gymryd camau pellach drwy weddill y flwyddyn academaidd.
Yn dilyn streiciau ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth ei bod yn ymwybodol o’r pwysau ariannol ar staff a myfyrwyr ond gwnaeth eu cynnig cyflog o 3 y cant, yn unol â lefelau cenedlaethol, yng nghyd-destun ‘sefyllfa gyllidebol’ dynn iawn a phwysau cost sylweddol’.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion:
“Ni fydd unrhyw ysgol yng Ngheredigion yn cael ei chau’n llawn; fodd bynnag bydd wyth ysgol yn rhannol agored i rai grwpiau/dosbarthiadau. Bydd ysgolion yn hysbysu disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid yn uniongyrchol am unrhyw newidiadau a all godi oherwydd y streiciau. Mae’r ysgolion a fydd yn rhannol agored yn cynnwys: Ysgol Ceinewydd, Ysgol Comins Coch, Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Gynradd Aberteifi, Padarn Sant, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Penglais ac Ysgol Bro Pedr.”
Roedd gorymdaith hefyd ym Machynlleth, ac mae hyn yn ogystal i streiciau gan nyrsys, postmyn a gyrwyr trenau.
Diolch i Alun Williams am y lluniau