Yn dilyn poblogrwydd ei drioleg am y Ditectif Taliesin MacLeavy, a llwyddiant ei nofel i bobl ifanc, mae’r awdur Alun Davies yn ôl gyda stori dditectif newydd i’n cadw ar flaenau ein traed.
Meddai’r awdur:
“Dwi’n gyffrous i gyflwyno ditectif newydd i’r darllenwyr, a gobeithio y byddan nhw yn mwynhau dod i adnabod Moses John, yn ogystal â dod ar siwrnai i Aberystwyth yn ôl i 1997. Ac i’r rheini sy’n gweld eisiau Taliesin MacLeavy, dwi’n siwr y byddwch chi’n adnabod ambell enw cyfarwydd o’r drioleg hefyd!”
Pwy yw Moses John? yw pumed nofel yr awdur, ac un sydd eto gydag Aberystwyth yn gefnlen i’r stori ac yn gymeriad ynddi’i hun.
Mae’n 1997 ac mae’r cyn-dditectif Moses John yn ceisio cofio manylion achos y bu’n ei arwain yn erbyn y llofrudd, Kharon. Mae atgofion y saith mlynedd blaenorol wedi diflannu o’i gof yn dilyn damwain car ddifrifol wrth iddo erlyn Kharon. Bu farw Kharon yn y ddamwain, ond pan fo llofruddiaethau tebyg yn digwydd, mae Moses John yn ail-astudio’r achos a cheisio datrys y dirgelwch cyn i’r llofrudd daro eto.
Meddai’r awdur a’r cyflwynydd radio Aled Hughes,
“Chwip o nofel arall gan Alun Davies, storïwr crefftus sy’n feistr ar greu gwe hyfryd. Mi wnes i ei llowcio hi mewn un eisteddiad.”
Dyma’r ail dditectif i Alun Davies ysgrifennu amdano, gyda’r drioleg Scandi-noiraidd am y Ditectif Taliesin MacLeavy (Ar Drywydd Llofrudd, Ar Lwybr Dial ac Ar Daith Olaf) yn cael eu canmol gan feirniaid a darllenwyr. Fe enillodd Alun Davies wobr Tir na n-Og 2023 yn gynharach eleni am y llyfr gorau i blant oed Uwchradd gyda’i gyfrol wedi’i dylanwadu gan y Mabinogi, Manawydan Jones: y Pair Dadeni.
Daw Alun Davies o Aberystwyth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n beiriannydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun.
Mae Pwy yw Moses John? gan Alun Davies ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).