Y DDOLEN Chwefror yn y siopau

Llond papur o straeon lleol o’r Ystwyth i’r Wyre

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
329931941_5191359684300813

Mae rhifyn Chwefror o bapur bro Y DDOLEN wedi cyrraedd eich siop leol.

28 tudalen o newyddion lleol ac erthyglau diddorol.

Prynwch eich copi yn eich siop leol. Cofiwch nad yw Siop y Pethe ar agor mis yma, felly yn Aberystwyth gallwch brynu eich copi yn Siop Inc neu Premier Penparcau.

Yn rhifyn Chwefror

  • Newyddion a lluniau o bentrefi’r ardal
  • Nodiadau Natur gan Ann M. Davies a’r ffotograffydd Ian Sant
  • Coginio gydag Eleri Hughes
  • Aros i Feddwl gan Beti Griffiths
  • Hanes a lluniau “Y Llew Frenin” – perfformiad ar y cyd gan ysgolion Syr John Rhys, Mynach a Pontrhydfendigaid
  • Adolygiad ar ‘Geiriadur y Gair’ gan Beti Griffiths: cyfrol newydd gan Geraint Lewis, Llangwyryfon
  • Cornel y Beirdd gan Mari Morgan
  • Croesair gan Siân Lewis – dyma eitem boblogaidd tu hwnt! Cofiwch, pan fyddwch wedi datrys y pos a darganfod y 3 gair sy’n gysylltiedig â mis Chwefror, danfonwch eich enw atom i y.ddolen@gmail.com am gyfle i ennill tocyn rhodd llyfr gwerth £10.
  • Cofio Rhiannon Roderick

Cyrhaeddodd swmp o waith ar gyfer Eisteddfod y DDOLEN ac erbyn hyn mae’r beirniaid yn pori dros y gwaith llenyddol. Edrychwn ymlaen at gyhoeddwyr enillwyr yn rhifyn Mawrth.

Hefyd yn rhifyn Mawrth, bydd erthygl am lyfr newydd “Y Sgowsar” a ymddangosodd ar glawr rhifyn Chwefror.