
Janos yn fuddugol

Rhedwyr yn barod i fynd

Enillwyr y Ddau Gopa
Un o rasys mwyaf poblogaidd canolbarth Cymru yw Ras y Ddau Gopa sydd yn manteisio ar dirwedd naturiol Aberystwyth.
Denodd heulwen cynnes yr Hydref bron i 140 o redwyr i redeg y ras 7.2 milltir gyda phobl ifanc eiddgar hefyd yn cystadlu wrth iddynt hwythau fentro ar Ras Consti – ychydig yn fyrrach ond yr un mor heriol.
Mae’r brif ras yn cychwyn wrth ymyl y bandstand cyn mynd i gyfeiriad hafan y bad achub a chroesi pont Trefechan a’r ddringfa gyntaf i gopa Pen Dinas. Roedd y ffordd i lawr yn wlyb a mwdlyd i lawr cyn dychwelyd ar hyd y prom lle’r oedd yr ail ddringfa, Craig Glais, yn wynebu’r rhedwyr, cyn gorffen gyda disgyniad cyflym ac ar draws y prom i’r llinell derfyn.
Wedi’i threfnu gan Glwb Athletau Aberystwyth, roedd cynrychiolaeth gref o’r clwb gyda dros 30 o aelodau yn cymryd rhan, ac enw cyfarwydd iawn o’r clwb groesodd y llinell derfyn yn gyntaf.
Rhedodd Janos Vranek y pellter mewn amser o 45.55, dros funud a hanner o flaen ei wrthwynebydd agosaf, ac yn naturiol roedd wrth ei fodd,
“Gan nad yw’r ras wedi ei rhedeg ers rhai blynyddoedd dyma’r tro cyntaf i mi fentro’r cwrs. Mae’n gwrs gwych, gan fanteisio ar y dirwedd naturiol yma yn Aberystwyth – gyda dringfeydd heriol ond rhediadau cyflym am i lawr a’r tywydd bendigedig yn goron ar y cyfan. Rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod.
Daeth llwyddiannau pellach i Glwb Athletau Aberystwyth gydag Aled Hughes yn sicrhau buddugoliaeth categori oedran mewn amser o 51.48 a Lynwen Huxtable eto yn dod i’r brig yn ei chategori oedran hithau mewn amser o 58.26. Sicrhaodd Ruth Flatman y 3ydd safle yn ei chategori oedran gydag amser o 1.14.03.
Rhaid rhoi sylw arbennig hefyd i Ifan Lloyd o Swansea Harriers a orffennodd yn y 6ed safle mewn amser o 49.58, gan ennill ei gategori oedran, ond yn bwysicach na hynny fe oedd enillydd cyntaf erioed Ras y Ddau Gopa yn yr 1980au pan yn rhedeg dros Aberystwyth.
Daeth llwyddiant hefyd i’r clwb yn y rasys iau gyda Yasmin Evans, Enfys Rowlands, Nel Dafis, Oli Lerigo, Ifan Jones a Llew Schiavone i gyd yn sicrhau buddugoliaethau categori oedran wrth iddynt gymryd rasio her Consti.
Ymhlith y noddwyr eleni roedd Cyngor Tref Aberystwyth ac roedd maer y dref, y Cynghorydd Kerry Ferguson, yn falch iawn o weld y digwyddiad yn ei ôl,
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl, rhedwyr a chefnogwyr, yma yn Aberystwyth ac yn cymryd rhan mewn achlysur sy’n amlygu rhinweddau ein tref fendigedig. Heb os, bu’r tywydd gwych yn help ond sicrhaodd y bydd Ras y Ddau Gopa yn aros yn hir yn y cof.
“Hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr ac yn arbennig y trefnwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad i lwyfannu ras mor gofiadwy.”
Derbyniodd pob rhedwr gardiau hardd a roddwyd ac a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad gan Lizzie Spikes a’r tîm yn Driftwood Designs a wnaeth hefyd gyfrannu cardiau a fframiau’r enillwyr hefyd. Ar gyfer y rasys iau rhoddwyd gwobrau o becynnau o lyfrau gan weisg Y Lolfa a Firefly.
Roedd Louise Barker yn un o’r tîm o drefnwyr oedd wrth ei bodd yn gweld y ras yn dychwelyd,
“Ar ôl Covid byddai wedi bod yn hawdd anghofio am y ras hon a pheidio â’i hail gyflwyno ond roeddem yn teimlo ei fod yn ddigwyddiad pwysig i’w gynnal yn y calendr rasio. Mae hefyd yn manteisio ar ddau o’n hasedau naturiol mwyaf adnabyddus yma yn Aberystwyth gyda’r promenâd hardd yn cysylltu Pen Dinas a Chraig-Glais ac yn cynnig cwrs rhedeg naturiol.
“Gobeithio y gallwn yn awr adeiladu ar lwyddiant eleni ac mae’n edrych yn debygol y bydd Ras y Ddau Gopa yn para am flynyddoedd lawer i ddod.
Gallwch weld y canlyniadau yn llawn ar wefan clwb athletau Aberystwyth.