Nos Wener, yr 20fed o Fai 2023, y Llyfrgell Genedlaethol oedd y lleoliad ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Cyngor Tref Aberystwyth lle dewiswyd y Cynghorydd Kerry Ferguson yn Faer Aberystwyth 2023-2024.
Diolchodd Kerry i bawb am eu cefnogaeth, ac yn Llydaweg, diolchwyd i’r cynrychiolwyr o St Brieuc oedd wedi mynychu. Roedd cynrychiolwyr hefyd o Arklow yn Iwerddon.
Fel rhan o’r seremoni, diolchwyd i Richard Griffiths a David Jenkins o’r RNLI am eu gwaith dros y blynyddoedd gan gyflwyno medalau iddynt.
Mewn datblygiad newydd, etholwyd Eurig Salisbury fel Bardd Aberystwyth 2023-24 ac roedd yn bresennol i nodi’r achlysur.
Rydym yn ffarwelio gyda’r Cynghorydd Talat Chaudhri ac yn diolch iddo am ei waith fel Maer yn 2022-23.
Bydd Kerry yn cael cefnogaeth ei phartner a’i chyd-gynghorydd, y Cynghorydd Emlyn Jones; yn ogystal â’r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Maldwyn Pryse.
Mae wedi dewis cartref Hafan y Waun fel ei elusen o’i dewis, a hynny mewn cyfnod pryderus iawn i’r cartref.
Mae newyddion da iawn ar y gorwel i Aberystwyth gyda llwyddiant gyda cheisiadau a mwy o wybodaeth am hyn i ddod.
Ar y dydd Sul, cafwyd gorymdaith y Maer a gwasanaeth arbennig i ddathlu.
https://www.facebook.com/watch?v=894854514944890
Pob hwyl Kerry a Maldwyn a diolch am bopeth Talat.