Dathliadau Clwb Rotari Aberystwyth -75 mlynedd o wasanaeth

Dewch i’n gweld ar y Prom 29-30 Gorffennaf

gan Hywel M Davies
image0-12-7-1

Hywel Davies yn cyflwyno lluniau ar ddechrau’r noswaith

image6-1-5-1

Hywel Davies a Neil Chisholm o Glwb Loch Ness

image3-1-6-1

Y Cerddorion Ifanc gyda Lona Phillips eu cyfeillyddes

image4-2-3-2

rhaglen y noson

image1-7

Carwyn Jones, Hywel Wyn Jones a Ben Lake A.S

image5-2-2

Alan Axford ,Karen Axford, Huw Spencer Lloyd, Jan Young, Ken Young, Liz Carr, Allen Carr, Hywel Axford, Anne Axford

Eleni mae Clwb Rotari Aberystwyth yn dathlu ei 75ain blwyddyn. Edrychwn ymlaen at benwythnos i ddathlu’r haf hwn, 29-30 Gorffennaf, yn y ‘Bandstand’ ar y Promenâd: digwyddiad sy’n canolbwyntio ar y teulu gyda phaentio wynebau, adrodd straeon, corau a cherddoriaeth a chyfle i arddangos ein gwaith a gwaith yr elusennau rydym yn eu cefnogi.

Byddwn hefyd yn gosod deial haul gyda chaniatâd y Cyngor Tref a CADW ar y Gofgolofn ger y Castell fel cofeb barhaol i’r gwasanaeth y mae’r Clwb wedi ei roi i Aberystwyth ers ei sefydlu ym 1948 ac yn edrych i’r dyfodol.

Noson dathlu mis Ebrill

Cafwyd noson Siarter lwyddiannus iawn a gynhaliwyd ym mis Ebrill gyda dros 100 o westeion o bob cefndir gan gynnwys Ben Lake AS, Elin Jones , Llywydd y Senedd, y Llywodraethwr Dosbarth a mintai sylweddol o Rotariaid o Glwb Loch Ness, Inverness.

Y gŵr gwadd oedd yr Athro Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog a Rotariad ei hun. Diddanwyd y gwesteion gan gyflwyniadau cerddorol swynol Cerddorion Ifanc Rotary: Ioan Mabbutt a Gruff Siôn yng nghwmni Lona Phillips eu cyfeilyddes. Codwyd £800 drwy raffl y noson er budd Prostate Cymru.

Hanes y Clwb

Sefydlwyd y Clwb am 9.23 o’r gloch ar Fawrth 15fed 1948. Rydym yn gwybod hanes y 25 mlynedd gyntaf y Clwb o’r llyfr a  ysgrifennwyd gan yr ysgolhaig, Lionel White, ym 1973.

Cryfder y Clwb o’i gychwyn cyntaf oedd y cysylltiadau hawdd rhwng dynion o gefndiroedd proffesiynol gwahanol. ‘Tref a Gŵn’ ar ei orau. Adlewyrchodd aelodau’r Clwb Rotari arweinyddiaeth leol ac awdurdod trwy eu rhwydweithio a’u gweithgarwch. Rotari a ddarparodd y goeden Nadolig i’r dref gyntaf, gwasanaeth a berfformiwyd ar raddfa ehangach a mwy gan y Gorfforaeth yn y 1960au. Roedd y goeden yn gysylltiedig ag ymdrechion elusennol ar ran yr hen a’r anghenus ac â chasglu teganau i’r plant. Hen gloc y dref oedd y safle arferol ar gyfer y goeden lle cafodd y goleuadau eu cynnau gan Ei Deilyngdod y Maer. Ym 1953 codwyd y goeden ar y Promenâd: bu’r newid yn aflwyddiannus ac ym 1954 daeth yn symudol gyda chôr o aelodau’r Olwyn Fewnol a’r Rotari yn canu carolau, i gyfeiliant piano a oedd wedi’i osod ar land-rover. Bu i’r Clwb Rotari sefydlu Ffeiriau Gyrfaoedd ac arddangosfeydd yn ystod y 1950au, gweithgaredd, fel y goeden Nadolig, a gymerwyd drosodd gan y Cyngor.

Rydym wedi gwneud gwahaniaeth mewn cymaint o ffyrdd: Jasper House, Tŷ Geraint yn Ysbyty Bronglais ym mlwyddyn John Davies fel llywydd a gardd Rotari ym Mronglais dan lywyddiaeth Alun Rees i enwi dim ond rhai.  Bu anturiaethau hefyd – taith lori John Bradshaw a Gareth Williams i Groatia gydag adnoddau i helpu yn y rhyfel trychinebus yno, er enghraifft.

Hanes diweddar

Ar ôl COVID, rydym yn cyfarfod dwywaith y mis yn lle’n wythnosol ac mae ein pencadlys yn dal i fod  yn yr un lle ers canol y 1960au sef Gwesty’r Marine ar y Promenâd.

Mae’n debyg ein bod wedi gwneud mwy o gyfraniadau ariannol i’r gymuned leol yn Aberystwyth nag unrhyw wasanaeth neu glwb gwirfoddol arall: fe’m hysbyswyd gan ein Trysorydd, Robin Varley, ein bod ers 2013 wedi dosbarthu £34,000 i elusennau lleol yn unig drwy ein Casgliadau Nadolig. Yn ystod yr un cyfnod, rydym wedi noddi 19 o bobl ifanc lleol ar ymweliadau astudio dyngarol ledled y  byd ysgoloriaethau a wnaed yn bosibl trwy gymynrodd gan Lionel White wedi’i ategu gan ein hymgyrch codi arian ein hunain . Mae’r bobl ifanc hyn wedi cymryd gwerthoedd gwasanaeth ac ymrwymiad i’r Clwb Rotari ac Aberystwyth ar draws y byd.

Rydym wedi codi 9 blwch ymgeleddi leddfu sefyllfaoedd mewn gwledydd yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau naturiol, a’r diweddaraf yw’r un yn Nhwrci a Syria.

Rydym yn cynnal cystadlaethau ieuenctid arloesol a chlodfawr Clwb Rotari fel y Cerddor Ifanc ond hefyd y Cogydd Ifanc, y Llenor Ifanc,  yn y Gymraeg a’r Saesneg, a threfnu diwrnod allan bob blwyddyn i ofalwyr ifanc: ‘Kids’ Out’.

Ein presenoldeb mwyaf gweladwy yn Aberystwyth yw’r Ffynnon Gobeithion ar y Prom ac ers 2013 drwy haelioni ymwelwyr i Aberystwyth gwnaed yn bosibl i ni, gyda Rhodd Gymorth, i gyfrannu bron £11,000 at Atal Polio ac yn fwy diweddar at Wateraid. Trwy ein tanysgrifiadau, dros yr un deng mlynedd, rydym wedi cyfrannu bron i £14,000 at elusen Rotari ei hunan, sef Sefydliad Rotari, a’i nod clodwiw o Atal Polio ledled y byd.

Rydym yn cefnogi Banc Bwyd y Storfa Jiwbilî sy’n cael ei redeg gan Eglwys y Santes Anne ym Mhenparcau. Yn ystod COVID gan na wnaethom gyfarfod am ginio, ond fe wnaethom roi’r arian y bydden ni wedi ei dalu am ginio i’r banc bwyd. Trwy ein casgliad Nadolig yn ddiweddar, rhoddwyd £1,500 i’r achos teilwng hwnnw. Yn 2019 roedd ganddynt 200 o gleientiaid y mis, ac mae hyn bellach wedi dyblu i 400.

Mae elusennau bach lleol fel DASH hefyd yn elwa o’n cefnogaeth oherwydd, fel yn genedlaethol, mae digwyddiadau codi arian yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw a newidiadau cymdeithasol. Mae elusennau lleol hefyd yn gwerthfawrogi ein rhoddion oherwydd, yn wahanol i’r Loteri Genedlaethol, nid oes amodau cymhleth a lluosog.

Y dyfodol

Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig? Mae gennym Lywydd newydd yn 2023-24, Eric Robinson, gyda Philip Evans (o Phillip Evans Estates) yn ei ddilyn yn y flwyddyn ganlynol .

Yng ngeiriau Gwyn Jenkins a luniwyd ar gyfer Noson Siarter John Harries yn 2016, disgrifir gwaith Rotari mewn cynghanedd

O droi eich rhodau droeon – eu dannedd

Sy’n denu’r holl roddion

O bob cwr yn dwr, yn don,

A fydd i’r tlawd yn foddion.

Cofiwch alw draw i’n gweld yn y Bandstand ar y Prom ar y 29ain-30ain o Orffennaf, i weld drosoch eich hunan beth rydym yn ei wneud. Ymunwch â ni, mae’n hwyl a byddwch hefyd yn rhan o fudiad sy’n gwneud daioni, yn lleol ac yn fyd-eang.

HYWEL M DAVIES

LLYWYDD CLWB ROTARI ABERYSTWYTH 2022-23