Cyngerdd Hwyliog Sioe’r Cardis – 17/11/2023

Enillwyr Cenedlaethol yn diddanu’r Cardis – mynnwch eich tocyn!

gan Sara Jenkins

Cynhelir Cyngerdd Hwyliog Sioe’r Cardis nos Wener, 17 Tachwedd 2023, am 7.00 o’r gloch yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr elw’n mynd tuag at Apêl Ceredigion i noddi Sioe Fawr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2024.

Yr artistiaid yw Côr Meibion Machynlleth gyda’i lu o dalentau, Adran yr Urdd Aberystwyth ac Aelodau CFfI Ceredigion.

Côr Meibion Machynlleth – cantorion llwyddiannus a phencampwyr codi arian

Sefydlwyd Côr Meibion Machynlleth yn Hydref 2014, yn griw o ddynion ifanc, ac ifanc eu hysbryd, dan arweiniad Aled Myrddin, gyda Menna Rhys yn gyfeilydd.

Daeth y côr at ei gilydd yn wreiddiol er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod yn 2015 – Eisteddfod leol i’r côr. Ers hynny, mae’r côr wedi cystadlu’n flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gael yr ail wobr ar sawl achlysur, ynghyd â’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Y flwyddyn honno hefyd, enillodd y côr adran y Corau Meibion yng Nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C.

Mae’r llwyddiant hwnnw hefyd wedi golygu cyfleoedd i gael profiadau eraill gwerth chweil i’r côr, yn cynnwys canu’r anthemau ar y maes rygbi cenedlaethol cyn gêm Cymru v Seland Newydd yn 2017, canu yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Albert yn 2018, a thaith i berfformio yng Ngŵyl Gymreig Ontario, Canada, yn 2019. Cafwyd cyfle hefyd i recordio CD trwy gwmni Sain, a gafodd ei rhyddhau yn haf 2018, a recordio rhifyn Nadolig rhaglen Cefn Gwlad gyda Dai Jones Llanilar yn 2017.

Wedi cyfnod tawel i’r côr yn ystod blynyddoedd Covid, mae’r côr wedi dechrau arni eto. Roedd dau brif ffocws i’r gweithgareddau yn 2022. Y cyntaf oedd cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron, lle’r enillwyd yr ail wobr unwaith yn rhagor.

Ond wedi hynny, trodd golygon nifer o’r aelodau oddi wrth bedwar llais a thuag at ddwy olwyn, a chodi arian tuag at Apêl Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais trwy feicio o Gaergybi i Gaerdydd. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i’r criw, yn gymysgedd o ychydig o boen, llawer iawn o hwyl a brawdgarwch, ynghyd â gorfoledd wrth i bawb gyflawni’r her. Llwyddwyd i godi £100,000 tuag at yr achos teilwng hwn.

Côr Meibion Machynlleth oedd enillwyr cystadleuaeth y Corau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mi fyddant yn teithio i’r Eidal yn fuan cyn dychwelyd i berfformio yng nghyngerdd Hwyliog Sioe’r Cardis ar y 17eg o Dachwedd.

Adran Aberystwyth – cymdeithasu a chanu gyda chyfoedion trwy gyfrwng y Gymraeg

Yr abwyd ar gyfer sefydlu Adran Aberystwyth oedd y ffaith fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Geredigion ym Mai 2010. Felly, fe aethpwyd ati yn Hydref 2009 i wahodd plant Blwyddyn 4, 5 a 6 o ysgolion cynradd Cylch Aberystwyth i Neuadd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar nos Iau er mwyn cynnal gweithgareddau amrywiol a chystadlu, a hynny yn enw’r Urdd. Pedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae’r Adran yn dal i fynd ac wedi tyfu i gynnwys bron i 50 o blant cynradd ac uwchradd o ardal Aberystwyth a’r cyffuniau.

Mae gweithgareddau i’r criw cynradd yn amrywio o ddawnsio i wneud crefft, chwarae bingo a sesiynau drama ac, wrth gwrs, mae’r plant yn cael cymdeithasu yn y Gymraeg gyda’u cyfoedion o amrywiol ysgolion y cylch. Mae’n deg dweud fod y ddwy arweinyddes yn mwynhau cystadlu, ac felly peth naturiol oedd dechrau gwneud hynny yn 2010. Er na chafwyd llwyddiant y flwyddyn honno, mae’r Adran wedi bod yn hynod o ffodus i ddod i’r brig ar sawl achlysur dros y blynyddoedd yn eisteddfodau’r Urdd, yr Ŵyl Cerdd Dant a’r Eisteddfod Genedlaethol a hynny gyda phartïon unsain, cerdd dant a chorau. Cafwyd wythnos brysur iawn yn yr Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanymddyfri, gyda’r Adran yn llwyddo i gael un wobr gyntaf, tair ail wobr a thair trydedd wobr; roedd hyn yn cynnwys unawdwyr, deuawdwyr, ensemble a phartïon.

Cafodd Lona a Helen, y ddwy arweinyddes, eu hanrhydeddu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd gyda Medal John a Ceridwen Hughes, a hynny am eu cyfraniad a’u parodrwydd i wirfoddoli er mwyn cynnig profiadau i blant a phobl ifanc ardal Aberystwyth.

Mae’r Adran yn hynod o falch o gael bod yn rhan o’r cyngerdd arbennig hwn ac yn edrych ymlaen at gael rhannu llwyfan gyda’r holl artistiaid.

CFfI Ceredigion – talentau amrywiol yr aelodau

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn fudiad gwirfoddol i ieuenctid Cymru sy’n gweithredu’n ddwyieithog ledled y sir. Mae 19 o glybiau yng Ngheredigion a dros 500 o aelodau. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau arbennig ac mae’n apelio at bob oedran a chefndir.

Bydd aelodau’r CFfI yn siŵr o’ch diddanu a chodi gwên yn y cyngerdd!

Edrychwn ymlaen at noson i godi’r to!  Dewch yn llu.

I archebu eich tocynnau er mwyn cefnogi’r apêl, cysylltwch â:

Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 01970 62 32 32 / artstaff@aber.ac.uk neu drwy ymweld â’r wefan:  https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/music/cyngerdd-sioe%E2%80%99r-cardis