Wrth chwilio am hanes y teulu yng Nghyfrifiad 1921 fe wnes i ddod o hyd i fy nhad 4 oed a’i chwaer 6 oed yn byw gyda’u rhieni yn Star Cottage, Llandysul, ac yno yn byw gyda nhw yr oedd dau frawd di-waith fy mam-gu, sef William (Teiliwr 38 oed) ac Evan Jones (36 oed). Mae gennyf lun o Evan pan oedd yn gweithio fel glowr yn Nhonypandy yn 1911 ond erbyn 1921 mae’n debyg ei fod yn gweithio yn Clydach Vale, ac yn ôl y ffurflen Gymraeg a lenwyd gan fy nhad-cu, James Davies, roedd yn lowr ‘Allan o Waith’. Roedd llawer ‘Allan o Waith’ yn Llandysul ar y pryd, ac wrth bori trwy’r ffurflenni gwelir nifer o weithwyr yn y melinau gwlân yn segur ar ddiwrnod y cyfrifiad, gyda’r Tyssul Shirt Manufacturing Company, a melinau Abercerdin a Pantolwen yn cael eu henwi fel cyflogwyr. Y ffaith fwyaf syfrdanol, fodd bynnag, yw fod 22 glowr di-waith, tebyg i fy Wncwl Evan, yn byw yn Llandysul ar y pryd, a hynny mewn pentref gwledig ar lannau’r Afon Teifi yn Ngheredigion (Sir Aberteifi).
O’r 240 cartref yr wyf wedi eu gwirio yr oedd glowr di-waith yn byw mewn bron i 10% ohonynt. Wrth edrych ar yr enwau gwelir ystod oedran o 16/17/18 oed i 54/55/60 oed gyda’r rhan fwyaf yn eu hugeiniau neu eu tridegau. Dyma restr i chi o’r pyllau glo a enwir ar y ffurflenni cyfrifiad i ddangos pa mor bell yr oedd dynion y pentref wedi crwydro i gynnal eu teuluoedd (gan ddychwelyd adref pan oedd y pwll ar gau) – defnyddiaf y sillafiad a’r iaith a nodir ar y ffurflen:
Emlyn Colliery Penygroes, Abergorchy Ystrad, Fernhill Colliery Treherbert, South Wales Anthracite Coal Co Ystradgynlais, Gwastad Colliery Pontypridd, Insoles Ltd Porth, Mountain Colliery Gorseinon, New Cross Hands Colliery, Cymer Colliery, Swansea Navigation Collieries Gorseinon, McLaren No 1 Abertysswg, D.Davies & Sons Tylorstown, Cory Bros Resolven, Cleeves Western Valley Cross Hands, Cambrian Combine Clydach Vale, Nantgwyn Colliery Penygraig, Ferndale No 9 Pit, North Navigation Co Nantyffyllon.
Bydd rhai haneswyr a gwleidyddion yn ceisio ein rhannu fel Cymry byth a hefyd gan bwysleisio’r gwahaniaethau sydd rhyngom a honni fod profiadau diwydiannol a chymdeithasol de Cymru yn arbennig ac yn unigryw. Mae’r ffaith fod cymaint o deuluoedd mewn pentref y tu allan i faes y glo yn wynebu yr un caledi â’u cyd-Gymry yn eitha arwyddocaol yn fy marn i. Efallai ei fod hefyd yn esbonio pam fod cefnogaeth i’r mudiad Llafur a’r Blaid Lafur mor gryf hyd at ganol yr ugeinfed ganrif mewn ardaloedd fel Llandysul, gan gynnwys fy nheulu fy hun. Does ryfedd chwaith fod cymaint o gefnogaeth a chydymdeimlad â’r glowyr wedi amlygu ei hun led-led Cymru yn ystod streiciau’r glowyr.
Mae modd ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i archwilio Cyfrifiad 1921 neu danysgrifio i Find My Past. Faint ragor ohonoch, tybed, fydd yn dod ar draws glowyr di-waith ymhlith eich cyndeidiau.
Phil Davies