Cyflwyno cerbyd i Hafan y Waun

Yr arian o’r Cyngerdd Mawreddog yn talu am gerbyd trydan

Karen Rees Roberts
gan Karen Rees Roberts

Fel gŵyr nifer ohonoch, bu Megan Jones Roberts, Mandy Pilcher a Julie Rees yn gweithio yn galed ym Mehefin 2022 i gynnal cyngerdd mawreddog i godi arian i gael cerbyd trydan i gartref Hafan y Waun.

O’r diwedd, ym mis Chwefror 2023, daeth yr amser i gyflwyno cerbyd trydan i gartref Hafan y Waun. Mae’r cartref yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r cerbyd i fynd a thrigolion y cartref ac aelodau o’r gymuned am ymweliadau a theithiau.

Yn y llun, fe welwch Megan, Mandy a Julie yn cyflwyno’r cerbyd i Karen Rees Roberts, Rheolwraig Canolfan Cymunedol y cartref.

Codwyd yr arian mewn Cyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Wener 17 o Fehefin, gyda Dilwyn Morgan yn cyflwyno Dafydd Iwan, Welsh Wisperer, Sgarmes, Meibion y Mynydd, Côr Merched Bro’r Mwyn, Academi Gerdd Ger y Lli, a Bwca.

Mae Megan hefyd wedi bod yn codi arian i ymgyrch Chemo Bronglais gyda chyngerdd yn y Clwb Pel-Droed ar y 26ain o Dachwedd, ac mae hefyd yn hynod o weithgar gyda phapur bro, Yr Angor, yn ogystal â nifer o fudiadau lleol.

Diolch i bawb am bob cefnogaeth i’r gyngerdd er mwyn cyrraedd y garreg filltir bwysig yma, yn arbennig Megan.