Cyfeillgarwch Aberystwyth-Yosano

Ymweliad gan fyfyrwyr o Siapan

Mererid
gan Mererid

Croesawyd criw o fyfyrwyr o Yosano Town, Siapan i Geredigion ym mis Tachwedd fel rhan o Gymdeithas Cyfeillgarwch Aberystwyth-Yosano.

Cawsant gyfle i ymweld ag AberInnovation Prifysgol Aberystwyth a chlywed am gyfleoedd economaidd gan Gyngor Sir Ceredigion

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies: –

“Roedd yn fraint i gwrdd â myfyrwyr a Maer Yosano yn Aberystwyth. Mae’r cyswllt rhwng Yosano ac Aberystwyth yn un cryf a gobeithio y gallwn ymestyn y cyswllt hwnnw ymhellach ledled Ceredigion gan fod yr heriau a’r cyfleoedd, yn enwedig i’n pobl ifanc, yn debyg yng Ngheredigion a Yosano”.

Ddwy awr i’r gogledd o Kyoto ar arfordir gorllewinol Japan ac iddi boblogaeth o tua 24,000, sefydlwyd cysylltiad agos rhwng Yosano ag Aberystwyth yn y 1980au diolch i waith y cyn-garcharor rhyfel, y diweddar Frank Evans.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Yosano yn safle gwersyll carcharorion rhyfel, gyda channoedd o garcharorion rhyfel o luoedd y Cynghreiriaid, yn ogystal â llafurwyr Tsieineaidd a Corea, yn cael eu gorfodi i weithio ym mwyngloddiau Oeyama.

Roedd llawer o’r carcharorion yn filwyr Cymreig a ddaliwyd yn Hong Kong.

Roedd y profiad yn un creulon; roedd carcharorion yn cael eu tan-fwydo, yn byw mewn amodau llym, ac yn cael eu cosbi’n rheolaidd am fân droseddau. Nid yw’n syndod bod tua 10% o’r carcharorion wedi marw.

Ar ôl diwedd y rhyfel, dychwelodd y carcharorion adref, llawer yn anymwybodol lle’r oeddent wedi treulio sawl blwyddyn yn dioddef.

Yn ystod ymweliad yn ôl â Japan flynyddoedd lawer ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, daeth un cyn-filwr o’r enw Frank Evans o hyd i’r dref lle cafodd ei gadw’n garcharor.

Wrth ddychwelyd i Yosano, sefydlodd Frank y cyswllt Yosano-Aberystwyth, gyda’r nod o hybu cysylltiad rhwng y ddwy dref a meithrin ‘heddwch tragwyddol’.

Mae’r gymdeithas bellach yn ffynnu, gyda chyfnewid myfyrwyr yn rheolaidd rhwng y ddwy dref a sawl digwyddiad yn cael eu cynnal yn flynyddol i hybu dealltwriaeth ddiwylliannol.

Efallai bod gwreiddiau cyswllt Aberystwyth-Yosano yn boenus, ond mae’r cysylltiad yn helpu i gadw cof y carcharorion hynny a fu farw ac annog bod yn agored yn y genhedlaeth iau, sy’n bwysig i ddyfodol y ddwy dref.

Boed i’r gymdeithas barhau i fynd o nerth i nerth.