Coron i Arwel

Llwyddiant i Ogledd Ceredigion yn Eisteddfod Bont

Mererid
gan Mererid
Rocet1

Arwel Rocet yn ei goron

parti-canu-cynradd-ysgol-gymraeg

Parti Canu Cynradd Ysgol Gymraeg Aberystwyth

adran-aberystwyth

Adran Aberystwyth

gruff

Gruff a’i darian

344023303_248869737626807

Arwel “Rocet” Jones o Aberystwyth oedd bardd coronog Eisteddfodau Pontrhydfendigaid a gynhaliwyd ar y penwythnos 28ain, 29ain a 30ain o Ebrill 2023.

“Pererin” oedd teitl y gerdd – yn sôn am gerdded y prom ac yn derbyn canmoliaeth uchel y beirniaid, y Prifeirdd Dafydd John Pritchard a Gwenallt Ifan.

Nid dyma wobr lenyddol gyntaf Arwel, sydd yn hanu yn wreiddiol o Ros-y-Bol yn Ynys Môn, ond yn byw yn Aberystwyth ers ei amser yn y Brifysgol. Mae bellach yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau.

Llongyfarchiadau mawr Arwel.

Canlyniadau Eraill

Ymysg y canlyniadau eraill, rydym yn llongyfarch y canlynol yn fawr ac yn ymddiheuro os ydym wedi anghofio rhywun.

PARTI CANU Oedran Ysgol Gynradd

Cyntaf i Adran Aberystwyth

CÔR PLANT oedran Ysgol Gynradd

Cyntaf i Adran Aberystwyth

UNAWD OFFERYNNOL Blwyddyn 7, 8 a 9

Cyntaf i Gruffydd Sion o Landre
Ail i Elinor Nicholas o Aberystwyth
Trydydd i Carys Jenkins o Aberystwyth

LLEFARU Blynyddoedd 3 a 4

Trydydd i Now Schiavone o Aberystwyth

LLEFARU Blynyddoedd 5 a 6

Trydydd i Meia Evans o Lanfihangel y Creuddyn

UNAWD ALAW WERIN. Blynyddoedd 6 ac iau

Trydydd i Meia Evans o Lanfihangel y Creuddyn

UNAWD Oedran Blynyddoedd 10 – 13

Ail i Ioan Mabbutt o Aberystwyth

UNAWD ALAW WERIN Blynyddoedd 7-13

Ail i Ioan Mabbutt o Aberystwyth

LLEFARU Oedran Blynyddoedd 10 – 13

Trydydd i Elan Mabbutt o Aberystwyth

UNAWD o SIOE GERDD, OPERA YSGAFN neu FFILM i rai dan 19 oed

Ail i Miri Llwyd o Landre

UNAWD CERDD DANT Agored

Cyntaf i Trefor Pugh o Drefenter
Ail i Beca Williams o Aberystwyth

UNAWD ALAW WERIN Agored

Cyntaf i Trefor Pugh o Drefenter
Trydydd i Beca Williams o Aberystwyth

TLWS YR IFANC (oedran blynyddoedd 7-13)

Trydydd i Elan Mabbutt o Aberystwyth

STORI FER – Yma O Hyd.

Trydydd i Dilys Baker Jones o Bow Street

EMYN – Mawl I’r Gwasanaeth Iechyd

Ail i Vernon Jones, Bow Street

Llongyfarchiadau i chi gyd a chofiwch am Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth ar y 11eg o Fai 2023.