Arwel “Rocet” Jones o Aberystwyth oedd bardd coronog Eisteddfodau Pontrhydfendigaid a gynhaliwyd ar y penwythnos 28ain, 29ain a 30ain o Ebrill 2023.
“Pererin” oedd teitl y gerdd – yn sôn am gerdded y prom ac yn derbyn canmoliaeth uchel y beirniaid, y Prifeirdd Dafydd John Pritchard a Gwenallt Ifan.
Nid dyma wobr lenyddol gyntaf Arwel, sydd yn hanu yn wreiddiol o Ros-y-Bol yn Ynys Môn, ond yn byw yn Aberystwyth ers ei amser yn y Brifysgol. Mae bellach yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau.
Llongyfarchiadau mawr Arwel.
Canlyniadau Eraill
Ymysg y canlyniadau eraill, rydym yn llongyfarch y canlynol yn fawr ac yn ymddiheuro os ydym wedi anghofio rhywun.
PARTI CANU Oedran Ysgol Gynradd
Cyntaf i Adran Aberystwyth
CÔR PLANT oedran Ysgol Gynradd
Cyntaf i Adran Aberystwyth
UNAWD OFFERYNNOL Blwyddyn 7, 8 a 9
Cyntaf i Gruffydd Sion o Landre
Ail i Elinor Nicholas o Aberystwyth
Trydydd i Carys Jenkins o AberystwythLLEFARU Blynyddoedd 3 a 4
Trydydd i Now Schiavone o Aberystwyth
LLEFARU Blynyddoedd 5 a 6
Trydydd i Meia Evans o Lanfihangel y Creuddyn
UNAWD ALAW WERIN. Blynyddoedd 6 ac iau
Trydydd i Meia Evans o Lanfihangel y Creuddyn
UNAWD Oedran Blynyddoedd 10 – 13
Ail i Ioan Mabbutt o Aberystwyth
UNAWD ALAW WERIN Blynyddoedd 7-13
Ail i Ioan Mabbutt o Aberystwyth
LLEFARU Oedran Blynyddoedd 10 – 13
Trydydd i Elan Mabbutt o Aberystwyth
UNAWD o SIOE GERDD, OPERA YSGAFN neu FFILM i rai dan 19 oed
Ail i Miri Llwyd o Landre
UNAWD CERDD DANT Agored
Cyntaf i Trefor Pugh o Drefenter
Ail i Beca Williams o AberystwythUNAWD ALAW WERIN Agored
Cyntaf i Trefor Pugh o Drefenter
Trydydd i Beca Williams o AberystwythTLWS YR IFANC (oedran blynyddoedd 7-13)
Trydydd i Elan Mabbutt o Aberystwyth
STORI FER – Yma O Hyd.
Trydydd i Dilys Baker Jones o Bow Street
EMYN – Mawl I’r Gwasanaeth Iechyd
Ail i Vernon Jones, Bow Street
Llongyfarchiadau i chi gyd a chofiwch am Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth ar y 11eg o Fai 2023.