Digwyddiad i fod mor falch ohonno, hanes i blant a phobl Aberystwyth werth ymweld ag e a dechrau twrio i’r hanes.
Dadorchuddiwyd un o’r placiau porffor uchel eu bri yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 3 Tachwedd) i anrhydeddu cyfraniad rhyfeddol menyw a arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau ym 1924 i gyflwyno deiseb heddwch wedi’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.
Caiff y plac er cof am Annie Hughes Griffiths (1872-1942), a fu’n astudio yn Aberystwyth yn y 1890au, ei osod ar wal ei chyn gartref ym Maes Lowri lle mae ei ŵyr, Rolant Ellis, dal yn byw.
Dadorchuddiwyd y plac gan Esyllt a Gwenllian, gor-wyrion Annie Hughes Griffiths .
Annie Hughes Griffiths yw’r bedwaredd fenyw ar ddeg i’w anrhydeddu gan fudiad Placiau Porffor Cymru, a sefydlwyd er mwyn gwella cydnabyddiaeth menywod eithriadol yng Nghymru.
Dywedodd Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru: “Rydyn ni’n meddwl bod Annie wir yn ymgorffori ysbryd Placiau Porffor Cymru. Mae’r ffaith ei bod hi’n gallu arwain ar brosiect a oedd yn cyffwrdd llawer iawn o fenywod ledled Cymru a’u hysbrydoli i arwyddo deiseb o blaid heddwch yn arbennig iawn, ond yn fwy felly mewn oes heb y math o gyfathrebu sydd gennym ni heddiw. Ac roedd mynd ymlaen wedyn a’i chyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau a theithio ar draws y wlad yn gamp anhygoel. Rydw i mor falch y gallwn ni nodi hyn gyda Phlac Porffor.”
Mae’r seremoni’r Plac Porffor yn rhan o raglen Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth. ‘Hawlio Heddwch’ yw thema’r ŵyl eleni, wedi’i hysbrydoli gan ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24.
Yn dilyn y seremoni, lansiwyd cyfrol ddwyieithog yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle mae’r ddeiseb bellach yn cael ei harddangos.
Wedi’i golygu gan yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth, mae Yr Apêl / The Appeal (Y Lolfa) yn cloriannu arwyddocâd yr ymgyrch heddwch a sut aeth Annie Hughes Griffiths a thîm o drefnwyr ati i gasglu llofnodion 390,296 o fenywod o bob cefndir a phob cwr o Gymru.
Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood: “Wrth i ni lansio cyfrol yn adrodd hanes rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru, mae’n arbennig o addas ein bod yn dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu ymdrechion Annie a’r miloedd o fenywod eraill a ddaeth ynghyd ganrif yn ôl i wneud apêl mor uchelgeisiol am heddwch byd-eang.”
Mae tocynnau ar gyfer –Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth Hawlio Heddwch, (1-7 o Dachwedd) yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Nodiadau ychwanegol
- Cafodd Annie Jane Davies ei geni yn Llangeithio, Ceredigion, ac roedd yn aelod o deulu â chanddynt gysylltiadau amlwg. Cafodd addysg breifat a bu’n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1892-1894.
- Ei gŵr cyntaf oedd Thomas Edward Ellis, yr AS dros Sir Feirionnydd, ond gadawyd hi’n weddw ar ôl blwyddyn yn unig o briodas a magodd ei mab ar ei phen ei hun. Ail briododd ym 1916 a newid ei henw i Annie Hughes Griffiths.
- Arweiniodd Annie Hughes Griffiths ar brosiect y ddeiseb tra’n gadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a llywydd Pwyllgor y Menywod yn ddiweddarach.
- Fe ysbrydolodd ymweliad y ddirprwyaeth o Gymru ymgyrchwyr heddwch America a rhoddodd ysgogiad newydd i fudiadau heddwch menywod yno. Daeth yn ganolbwynt cynadleddau yn trafod achosion a’r modd o ddatrys problem rhyfel mewn dinasoedd ar draws America.
Addasiad o ddatganiad Prifysgol Aberystwyth