Coda Ni yn Seion Aberystwyth

Angen dillad, esgidiau, bagiau, dillad gwely, cyrtens, teganau meddal a thywelion

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse

Bydd Coda Ni a Ffred Ffransis yn cynnal oedfa yn Seion, Stryd y Popty fore Sul 30 Gorffennaf.

Apêl Coda Ni eleni yw “Dŵr Bywiol” a’r nod yw codi arian i greu ffynhonnau cymunedol newydd.  Bydd hyn yn galluogi’r gymuned yn Saouga, Burkina Faso (yn y llun) i drawsnewid tir ar gyrion y Sahara i fedru tyfu llysiau.  Bydd yr arian hefyd yn mynd i gefnogi cynllun “Gefeillio Toiledau” i noddi toiledau glan.

Mae Coda Ni hefyd yn cefnogi’r genhadaeth Gristnogol lleol yn Burkina Faso i geisio hyrwyddo cymunedau sy’n agored i neges cariad Duw ac am dderbyn dŵr bywiol yn ffynnon y tu fewn – sef Ysbryd Duw yn gwmni a nerth i helpu’i gilydd trwy beth bynnag a ddaw.

Tybed a fedrwch gefnogi’r gwaith drwy gasglu hen ddillad, esgidiau, bagiau, dillad gwely (dim duvets, dim ond cynfasau gwely, casys gobenyddion) cyrtens, teganau meddal a thywelion?  Bydd y nwyddau hyn yn helpu i godi arian i brosiect cyfredol Coda Ni sef “Dŵr Bywiol” gyda’r nod o ddarparu ffynhonnau dŵr yn Burkina Faso a chefnogi Water Aid.

Os ydych eisiau i rywun eu casglu o’ch cartref, mae croeso i chi gysylltu â mi maldwyn@pryse.cymru