Am orig ar fore a phnawn Sul, bu cynghorwyr tref Plaid Cymru a chyfeillion yn casglu sbwriel fel rhan o ymgyrch cyson i gael tref daclus a glân.
Trefnwyd y gweithgaredd gan y Cynghorydd Alun Williams, Cynghorydd ward Bronglais sydd hefyd yn Gynghorydd Sir ward Morfa Glais ac yn aelod o’r cabinet. Braf oedd gweld cynifer wedi dod at ei gilydd a bu hyn yn sicr yn help i ysgafnhau’r gwaith.
Y tro hwn, canolbwyntiwyd ar strydoedd y dre o Ffordd Llanbadarn, tros y Buarth, canol y dref draw i’r môr ynghyd â Ffordd y Gogledd a’r strydoedd cyfagos. Yn y dyfodol, bydd cyfle i gychwyn ar y gwaith o gasglu sbwriel i lawr coedlan Plascrug.
Os oes problem sbwriel yn eich ardal a wnewch chi roi gwybod i’r cynghorwyr er mwyn targedu’r ardal yn y dyfodol neu dynnu sylw at broblem fwy difrifol drwy wasanaeth Clic y Cyngor Sir.
Y nod yw cael cymuned lan a thaclus y gall pobl ymhyfrydu ynddi. Wrth gwrs, mae gan bawb ran a chyfrifoldeb yn hyn a thrwy gydweithio bydd modd cyrraedd y nod. Bydd y rhaglen plannu blodau yn y gwelâu a’r gerddi yn parhau ac edrychwn ymlaen i weld ffrwyth y llafur tros y gwanwyn a’r haf.