gan
Sue jones davies
Cododd y grŵp canu carolau “Cantorion Y Stryd”, sy’n canu bob Nadolig ar y Stryd Fawr, gyfanswm o £1,100 eleni.
Siariwyd £800 yn gyfartal rhwng pedair elusen leol; Beiciau Gwaed Aberystwyth; y banc bwyd lleol yn eglwys St Anne, y Gymdeithas Gofal sy’n rhoi lloches i’r digartref yn yr ardal, a Home Start Ceredigion.
Fe roddwyd y gweddill a gasglwyd i Trên Wcrain ym Mhenparcau i brynu “generator” ail law i fynd allan i’r Wcrain.
Mae’r llun yn dangos grŵp o’r cantorion selog wedi iddynt gyflwyno siec am £200 i’r grŵp Beiciau Gwaed lleol.
Hoffem ni ddiolch o galon i bawb a ymunodd gyda ni i ganu a phawb a gyfrannodd mor hael i’r achos.
Pob hwyl tan y Nadolig nesaf!
Gethin a Glenda Roberts