Cadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth

Tymor Meri Huws yn dechrau mis Ionawr 2024

Prifysgol Aberystwyth
gan Prifysgol Aberystwyth
meri-huws-3

Meri Huws

Mae cyn Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.

Ymunodd Meri Huws â Chyngor y Brifysgol yn 2019, gan wasanaethu fel dirprwy i’r Cadeirydd presennol Dr Emyr Roberts ers Awst 2021.

Daw’n Gadeirydd ar 1 Ionawr 2024, ar ôl i dymor Dr Roberts ddod i ben.

Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Meri Huws oedd Comisiynydd y Gymraeg cyntaf Cymru gan wasanaethu yn y rôl rhwng 2012-2019. Cyn hynny bu’n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Roedd ei rolau blaenorol yn cynnwys swyddi Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant yn ei sir enedigol, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Meri Huws, Darpar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth:

“Bydd yn fraint dod yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i gyfrannu at fy alma mater fel aelod o’r Cyngor am y pedair blynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at wasanaethu fel Cadeirydd am y cyfnod sydd i ddod.

“Fel Prifysgol sy’n tyfu, ac ar fin penodi Is-ganghellor newydd, bydd fy ffocws i ar gefnogi datblygiad a momentwm parhaus y sefydliad gwych a hanesyddol hwn. Mae’n Brifysgol sy’n rhagori mewn addysgu ac ymchwil ac rwy’n falch iawn o’n record fel sefydliad o bwys byd-eang sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd ein hardal, ein rhanbarth a’n cenedl.”

Dywedodd Cadeirydd presennol Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts:

“Llongyfarchiadau gwresog i Meri ar ei phenodiad i’m holynu fel Cadeirydd y Cyngor. Rwyf wrth fy modd y bydd gan y Cyngor unigolyn wrth ei lyw sydd â record mor nodedig, ac ymrwymiad diamheuol i’n Prifysgol.

“Pan ddaw fy nhymor i ben ar ddiwedd 2023, byddaf yn gweld eisiau fy ngwaith gyda’r Brifysgol yn fawr. Fodd bynnag, gadawaf gyda’r hyder o wybod fod gennym Gadeirydd newydd yn ei lle sy’n ymgorffori gwerthoedd Aberystwyth, sydd wedi ein gwasanaethu cystal wrth i ni ddatblygu’r Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf.”