Bwyd Syriaidd i godi arian at oroeswyr y daeargryn

Aelodau o gymuned Syriaidd Aberystwyth yn paratoi cinio arbennig

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Dydd Mercher, 15 Chwefror, mae digwyddiad arbennig wedi’i drefnu i godi arian tuag at y rhai sy’n dioddef yn sgil y daeargryn dychrynllyd sydd wedi taro Twrci a Syria. Un o’r trefnwyr ydi Latifa, yn wreiddiol o Syria ond sydd bellach yn byw gyda’i theulu yn ardal Aberystwyth ac yn rhedeg y Syrian Dinner Project gyda Najlaa a Fatam.

Dywedodd Latifa:

‘Ddydd Llun, 6 Chwefror, fe wnaeth daeargryn, maint 7.8, daro Syria, yn arbennig yng ngogledd y wlad, gan ddod â mwy o ddinistr i gymunedau sydd eisoes wedi dioddef erchylltra rhyfel cartref. Ac mae’r sefyllfa yno yn wir y tu hwnt i’n hamgyffred. Mae’r rhai sydd wedi goroesi yn wynebu amgylchiadau dyngarol echrydus, yn ogystal â thywydd eithriadol o oer. Mae llawer o deuluoedd wedi colli anwyliaid, wedi i nifer fawr o adeiladau gael eu dymchwel.

‘Rydyn ni’n ddiogel yma – yn ddimymadferth a’n calonnau wedi torri. Felly, rydyn ni wedi penderfynu gwneud rhywbeth.

‘Dydd Mercher nesaf, 15 Chwefror, rhwng 11.30 ac 1.30 byddwn yn darparu cinio i’w gludo allan (takeaway) yn y Morlan, Aberystwyth. Bydd amrywiaeth o brydau ar gael – raps a dewis o salads, rhai’n cynnwys cig, rhai llysieuol a rhai di-glwten. Bydd pwdinau hefyd ar gael. Y gost fydd £13 y pryd – a bydd yr elw’n cael ei anfon i helpu’r rhai sydd yn dioddef yn sgil y drychineb.

‘Rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth a’ch rhoddion, ac yn ddiolchgar am eich caredigrwydd a’ch haelioni.’

Gallwch archebu bwyd drwy ffonio 07488554220 neu anfon ebost at: syriandinner.uk@gmail.com