Ras boblogaidd y Copaon yn dychwelyd

Wedi saib anorfod oherwydd y pandemig, braf clywed bod ras unigryw Y Ddau Gopa yn ôl yn Aberystwyth

gan Deian Creunant
Scott Waby

Llun gan Scott Waby

Mae ras boblogaidd yn dychwelyd i Aberystwyth: gan fanteisio ar ddau o dirnodau naturiol mwyaf adnabyddus y dre, caiff rhedwyr eu hwynebu â llwybrau heriol am i fyny a llethrau cyflym am i lawr yn ogystal â thaith hyfryd ar hyd glan y môr.

Yn ôl Louise Barker, un o drefnwyr Clwb Athletau Aberystwyth, roedd ’na alw mawr i’w gweld yn dychwelyd,

“Cyn Covid roedd y ras hon yn hollbwysig i nifer o redwyr lleol ac roedd yn denu athletwyr o bell ac agos. Mae’n braf gallu cynnig llwybr sy’n gweddu’n berffaith gyda’n tirwedd naturiol yma yn Aberystwyth a gobeithio y gwelwn ni lawer yn rhoi cynnig arni eto eleni. Ac os nad ydych chi awydd rhedeg, rydym hefyd yn chwilio am ddigon o wirfoddolwyr i helpu ar y diwrnod, felly cysylltwch â ni.”

Caiff y ras 7.3 milltir ei chynnal ar ddydd Sul, 15 Hydref am 11.30yb ac mae’r broses gofrestru bellach ar agor. Gan ddechrau a gorffen yn y Bandstand ar brom Aberystwyth, bydd y rhedwyr yn mynd i gyfeiriad y de i waelod y fryngaer Geltaidd hynafol, Pendinas, gan ddringo at a heibio cofeb enwog Dug Wellington ar y copa; wedyn dychwelyd i’r dref ar hyd y prom cyn dringo’r ail gopa sef Craig Glais.

Gan fod y copa hwn ychydig yn fwy serth na Phendinas, bydd y ddringfa yn siwr o sugno unrhyw egni sydd ar ôl gan redwyr, ond i ddilyn mae disgyniad cyflym yn ôl am y prom i orffen.

Y tro diwethaf iddo gael ei redeg, un o enwau adnabyddus clwb athletau Aberystwyth, Owain Schiavone, ddaeth i’r brig ac mae’n anelu at fod yno eto eleni i amddiffyn ei goron,

“Dw i’n meddwl y dylen ni ystyried ein hunain yn ffodus iawn i gael ras mor unigryw ar ein trothwy yma yn Aberystwyth. Byddwn yn annog unrhyw un i roi cynnig arni, mae’n ffordd wych o weld golygfeydd hyfryd ac os yw’r bryniau ychydig yn serth, cymerwch anadl a cherddwch – a mwynhewch y llwybrau i lawr!

“Mae’n ras anodd ond yn un o fy ffefrynnau. Disgrifiodd rhywun hi i mi unwaith fel ‘y ras dwi’n casáu ei charu’, a dyna’n union sut dwi’n teimlo amdani. Ar ôl gorffen yn ail ddwywaith yn y blynyddoedd blaenorol, roedd ennill yn 2019 yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa rhedeg.”

Yn ogystal â’r brif ras, bydd her iau Consti eleni hefyd am 10yb ac mae anogaeth i bobl ifanc gofrestru ac i ymuno yn yr hwyl.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i https://aberystwythac.wordpress.com/twin-peaks/  neu dilynwch Clwb Athletau Aberystwyth ar facebook