Bethlehem y Beirdd

Talwrn llwyddiannus iawn yn Llanfihangel Genau’r Glyn

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
Timau rowndiau cynderfynol Talwrn y Beirdd
Y gynulleidfa'n mwynhau perlau'r Talwrn

Nos Iau, 13 Gorffennaf, fe fu BBC Radio Cymru yn recordio dwy ornest o’r Talwrn yn Ysgoldy Bethlehem, Llandre.

Roedd hi’n braf iawn i’r Talwrn gael bod ’nôl yno’n recordio, ac fe gafwyd noson hwyliog iawn a’r lle dan ei sang. Ceri Wyn Jones oedd y Meuryn.

Recordiwyd dwy rownd gynderfynol y gyfres yno – un rhwng timau Dros yr Aber a’r Tir Mawr (ar yr awyr 23/07/23), ac yna Tir Iarll a’r Ffoaduriaid (ar yr awyr 30/07/23).

Bydd modd gwrando ar y rhaglenni drwy BBC Sounds.

Diolch i Marian Hughes a Chymdeithas Lenyddol y Garn am drefnu’r cyfan.