Balchder yn Aberystwyth

Llongyfarchiadau i’r criw am lwyddiant yr orymdaith

Mererid
gan Mererid
343057284_3581783592142053
343000118_2135904966800129
342828015_3429033354033168
342862053_1277690689497047
342914975_1518006535395465
342991760_1186511115387966

Roedd dydd Sadwrn yr 22ain o Ebrill yn bwysig i Aberystwyth am nifer o resymau.

Do, arhosodd Tîm Pêl-droed Aberystwyth yng Nghynghrair Cymru. Do, cafwyd cynulleidfa dda i ddigwyddiadau Gŵyl Crime Cymru – ond roedd hefyd yn ddiwrnod digwyddiad pwysig – Balchder yn Aberystwyth yn y Bandstand.

Diolch i griw bach oedd yn dymuno gweld y digwyddiad yn dychwelyd, daeth tua 200 ynghyd gan gerdded o’r Bandstand i waelod Consti. Roedd hefyd stondinau, dawnsio, cerddoriaeth a dathlu hawliau i bawb

Diolchwyd i Stars a Hufen Ia Aberdyfi am y nawdd.

Ymysg y stondinau roedd

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Undeb Myfyrwyr y Brifysgol
  • DDAS
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Unite
  • Eglwys St Paul’s

Rydym yn edrych ymlaen at weld y digwyddiad yn dychwelyd flwyddyn nesaf a plîs dilynwch y grŵp ar Facebook. Llongyfarchiadau ar lwyddiant y digwyddiad.