Arddangosfa gelf newydd yn Aberystwyth

Cydweithio rhwng Arad Goch a Mind Aberystwyth i arddangos gwaith celf

Mererid
gan Mererid

Ar ddydd Gwener, 13eg o Ionawr 2023, bydd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant Cyngor Sir Ceredigion, yn agor arddangosfa newydd.

Yng Nghanolfan Arad Goch, bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10.00-4.30, o ddydd Llun i ddydd Gwener tan yr 17eg o Chwefror 2023.

Mae Canolfan Arad Goch ag adnoddau ar gyfer pob math o weithgareddau creadigol. Bob wythnos, mae Mind Aberystwyth yn cynnal gweithgareddau celf i’w defnyddwyr.

Mae Arad Goch a Mind Aberystwyth yn falch iawn o’r cyfle i arddangos gwaith cyffrous dros yr wythnosau nesaf. Ewch i gael golwg.