Arddangosfa Celf

Eisteddfod y DDOLEN 2023

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Diolch i bob ysgol yn nalgylch papur bro Y DDOLEN am gefnogi’r Eisteddfod eleni eto. Roedd hi’n braf iawn derbyn gwaith o bob cwr o’r fro a rhoi digon o gelf i’r beirniad Thomas Morgan grafu pen drosto!

Mae canlyniad y tair adran wedi eu cyhoeddi yn rhifyn Mawrth y papur sydd ar gael yn eich siop leol. Yn y papur hefyd cewch flas o waith buddugol yn y cystadlaethau llenyddol. Caiff mwy eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Diolch i bob un a gefnogodd ac i John a Tegwen Meredith a Catrin M S Davies am feirniadu.

Mwynhewch wylio’r arddangosfa gelf.