Uchafbwynt eich ’Steddfod chi

Edrych nôl ar yr wythnos

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Pwy sy’n teimlo’n drist bore yma ar ôl i’r ’Steddfod ddod i ben?

Ar ôl aros am 3 mlynedd, rydym wedi mwynhau wythnos fendigedig yn Nhregaron yn Eisteddfod Ceredigion. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr ŵyl, mae hi wedi bod yn wythnos a hanner!

Tybed beth oedd eich uchafbwynt chi?

Ges gyfle prynhawn ddoe i ofyn y cwestiwn yma i rai o drigolion Bro Aber. Ychwanegwch eich uchafbwyntiau chi drwy roi sylw ar y stori yma.