Trafod biniau yn Aberystwyth

Cyngor Tref Aberystwyth yn trafod lleoliadau a math of finiau newydd i leihau baw cŵn

Mererid
gan Mererid

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn ymgynghori ar leoliadau newydd i roi biniau i leihau baw cŵn.

Gofynnodd y Cynghorydd Kerry Ferguson yng nghyfarfod Rheolaeth Gyffredinol Cyngor Tref Aberystwyth ym mis Ionawr, i gynghorwyr gynnig awgrymiadau am leoliadau ar gyfer biniau newydd yn eu wardiau.

Awgrymodd y Cynghorydd Danny Ardeshir (ward y Gogledd) waelod Gelli Anwen, a mynedfa Parc Natur Penglais ar Bryn Road. Mae’r braf iawn gweld fod Cyngor Sir Ceredigion wedi ymateb mor gyflym ac wedi ychwanegu bin ar waelod Gelli Anwen.

O ran mynedfa Parc Natur Penglais, nid yw hwn yn leoliad delfrydol gan nad yw’n llwybr casglu y mae’r Cyngor yn ei gymryd fel arfer. Fodd bynnag, bydd Cyngor y Dref yn cadw golwg ar yr ardal yma ac yn gofyn eto i’r Cyngor Sir os teimlwn fod angen bin yma.

Dyma ddiweddariad o’r lleoliadau a awgrymwyd i Gyfarfod Rheolaeth Gyffredinol y Cyngor ym mis Chwefror:

  • O dan Bont Trefechan: Mae hwn yn dir preifat, o’r gyffordd tu ôl i Tescos tua at yr harbwr. Mae’r tir yma yn eiddo i Dŵr Cymru sydd ddim yn fodlon cael unrhyw finiau i lawr yma. Mae’r biniau agosaf ger y bont gerdded wen ger y maes parcio pêl-droed, ac ar y llain laswellt ger y cei;
  • Heol y Bont: Mae’r palmentydd yn gyffredinol yn rhy gul, a derbynnir yn gyffredinol na fyddai’r un tŷ yn hapus i gael bin yn union gerllaw eu drysau ffrynt;
  • Cae Job / Parc Dinas – bu biniau yma o’r blaen, ond yn cael eu defnyddio ar gyfer gwastraff y cartref, felly fe’u gwaredwyd. Fodd bynnag, mae’r Cyngor Tref yn cydnabod bod hwn yn faes sy’n peri problemau i faw ci ac fe fyddant yn edrych am finiau llai, sydd yn fwy cyfyngedig i faw ci;
  • Heol Tyn y Fron, Penparcau – mae angen gwirio os oes bin yn y parc yn barod, a phwy sy’n berchen arno.

Gofynnodd trigolion Penparcau hefyd am y biniau a ddefnyddir yn Nhregaron. Mae gan Dregaron fath ‘newydd’ o finiau cŵn yn dalach, yn deneuach, yn cynnwys bagiau cŵn am ddim, Treialwyd y rhain yn Aberystwyth yn 2010, fodd bynnag cymerwyd y bagiau i gyd yn gyflym, ac roedd y biniau uwch yn gwneud i’r rhai oedd yn gwagio’r biniau deimlo’n anniogel (yn agos iawn at yr wyneb).

Mae Caru Aber hefyd wedi bod yn weithgar yn darparu bagiau baw ci mewn llefydd o fewn Aberystwyth

Caru Aber yn rhoi bagiau baw ci ger y Lanfa

Mae Kerry yn chwilio am eich barn chi a falle na fydd modd ateb bob ardal yn syth, ond bydd Kerry yn dal i roi pwysau ar y Cyngor Sir am atebion.

Cysylltwch â Kerry ar kerry.ferguson@aberystwyth.gov.uk.

Polion baneri ar adeiladau

Gofynnwyd i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol ystyried ’mabwysiadu’ y polion baneri/coed ar draws canol y dref.

Cyn y Nadolig, bu Menter Aberystwyth yn trefnu gosod y coed ar draws y dref. Daeth yn amlwg nad oedd rhai o’r polion mewn cyflwr da, a bu trafodaeth am eu cynnal a’u cadw.

Gofynnwyd i Gyngor Tref Aberystwyth ystyried gofalu am y polion fel rhan o’u gwaith cynnal a chadw yn y dref. Byddai hyn yn golygu y gallai unrhyw grŵp ofyn am ddefnyddio’r polion, gan wybod eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.

Bydd y Cyngor yn ystyried a oes cyllideb ar gael a bydd y mater yn cael ei basio i’r Pwyllgor Cyllid.

Os bydd y Pwyllgor Cyllid, gall y Cyngor edrych ar sut i fynd ati, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw, a chaniatâd gan y busnesau/adeiladau.

Biniau yn Llanilar hefyd

Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi lleoli dau fin newydd ar lwybr beicio Ystwyth ger Pont Pantmawr a Birchgrove.

Bin ger Eglwys am y Morfa Mawr